Daeth Llanelli a’i harfordir yn fyw yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, byddai’n anodd ei galw’n dref ddeniadol ond roedd ei nerth economaidd yn ddiamau.
Am bron i 200 mlynedd byddai simneiau talsyth y gweithfeydd dur, copr a thun yn llenwi gorwel gogleddol Aber y Llwchwr, gan greu llysenwau fel ‘Tinopolis’ a ‘Sosban’ (roedd sosbenni’n un o brif allforion y dref).
Yn ei hanterth diwydiannol roedd yr arfordir o Lanelli i Ben-bre yn gartref i resaid o ffatrïoedd, gorsafoedd pŵer, melinau, pyllau glo a gweithfeydd eraill yn cyflenwi ystod enfawr o gynhyrchion i’r byd. Daeth Llanelli yn enwog trwy’r byd ar adeg pan roedd yn cynhyrchu 50% o gyflenwad tunplat y byd.
I bob pwrpas cafodd mentergarwyr Llanelli rwydd hynt i drawsnewid tirlun y dref fel y mynnent, ond roedd pobl y dref yn fwy na hapus i dderbyn y difrod amgylcheddol a grëwyd gan y diwydiannau trwm oherwydd y cyfoeth a gynhyrchwyd ganddynt. Felly y bu pethau tan ddiwedd yr 1950au pan ddechreuodd y rhan fwyaf o’r hen weithfeydd fynd ar i waered ac aeth yr adeiladau’n adfeilion.
Cadwodd diwydiannau trwm eu gafael fregus ar y dref tan ddechrau’r 1980au pan gaeodd yr olaf o’r melinau dur enfawr.
Machynys
Mae’n debyg mai ym Machynys y mae’r hanes mwyaf lliwgar o’r holl ardaloedd unigol sy’n rhan o’r hyn a elwir erbyn hyn yn Barc Arfordirol y Mileniwm. Mae’n hanes sy’n gyforiog o fyth a chwedl ac mae’n mynd yn ôl yn llawer pellach na’r Chwyldro Diwydiannol.
Y sôn yw y cododd ac y dodrefnodd y gŵr sanctaidd Sant Piero fynachdy ysblennydd ar ynys yn Aber y Llwchwr yn 513, o’r enw Mynach Ynys.
Er nad oes unrhyw brawf cadarn o fodolaeth y mynachdy, mae digon o dystiolaeth fod tŷ crand ei adeiladwaith yn sefyll ar Fachynys am gryn amser. Prynwyd tŷ Machynys gan deulu Vaughan o Benbre yn 1627 a bu’n eiddo iddynt tan 1705 pan rannwyd ystâd y teulu rhwng yr etifeddesau, a phriododd un ohonynt yr arweinydd diwydiannol lleol Syr Thomas Stepney.
Rhywbryd neu’i gilydd, dymchwelwyd tŷ Machynys a chodwyd adeilad fferm yn ei le, a safodd nes iddo yntau hefyd gael ei ddymchwel yn yr 1970au. Y cyfan sy’n weddill o’r naill adeilad neu’r llall yw ychydig olion o wal ac, yn ôl yr hanes, dwnnel dirgel yn cysylltu Machynys gyda rhywle ym Mhenclawdd ar benrhyn Gŵyr.
Safai’r tŷ a’r fferm yn dalsyth ar ben Twmpath Machynys a, thros y cenedlaethau, roeddent yn dyst i’r newidiadau dramatig i’r tirlun.
Un o’r newidiadau mwyaf oedd y rhaglen adfer tir a welodd yr ynys yn troi’n benrhyn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Gwnaed hynny er mwyn creu mwy o le at ddefnydd diwydiannol.
Dechreuodd y broses ddiwydiannu o ddifrif ym Machynys tuag 1841 pan godwyd Gweithfeydd Haearn a Thun De Cymru. Dilynodd cyfres o ffatrïoedd dros yr hanner canrif gwaith cemegol, ffowndri haearn a gwaith bric. Un o ffatrïoedd enwocaf Machynys oedd R.T. Mills a godwyd yn yr un flwyddyn â’r Titanic ac a oedd, yn ôl y sôn, yn union yr un maint â’r llong anffodus honno.
Roedd gan y penrhyn ei chymuned ei hun hyd yn oed, o’r enw Bwlch y Gwynt, sef sawl rhes o fythynnod teras a godwyd i gynnig cartrefi i’r bobl oedd yn gweithio yn y melinau a’r ffatrïoedd lleol. Dymchwelwyd y tai yn yr 1960au ac ail-gartrefwyd y bobl yn ardal gyfagos y Morfa a rhannau eraill o Dde Llanelli. nesaf, gan gynnwys gwaith tunplat a , dim ond un adlais o orffennol diwydiannol y dref sy’n weddill – y gweithfeydd tunplat yn Nhrostre.
Doc y Gogledd
Yn ei hanterth diwydiannol roedd gan Lanelli rwydwaith o ddociau a glanfeydd ar hyd ei harfordir ond Doc y Gogledd, a godwyd ar droad y ganrif ddiwethaf, oedd y mwyaf a’r pwysicaf o bell ffordd. Am 50 mlynedd, roedd Doc y Gogledd yn ganolbwynt diwydiant y dref, wrth iddo dderbyn y deunyddiau crai ar gyfer y melinau a’r ffatrioedd a danfon y glo a’r cynnyrch gorffenedig ar eu taith.
Fodd bynnag, bu’r doc yn dioddef o siltio trwm trwy gydol ei oes fasnachol. Er mwyn ceisio lleddfu’r broblem hon fe godwyd wal arwain ynghanol Aber y Llwchwr er mwyn ceisio cyfeirio’r afon i ddynesfeydd y doc. Bu’r wal arwain yn llwyddiant mawr ond bu’n rhaid cario cerrig allan i’r aber gyda cheffyl a chart i’w hatgyweirio bron bob dydd. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r wal pan gaeodd y dociau yn ôl yn yr 1950au a’r hanes yw bod pysgotwyr blin o Ogledd y Gŵyr, oedd eisiau cael eu hafon yn ôl, wedi defnyddio ffrwydron i chwythu twll mawr ynddi. Fodd bynnag, mae olion y wal i’w gweld o hyd adeg llanw isel o fannau gwylio ar ben pellaf Penrhyn Machynys. O’r mannau gwylio hyn gallwch weld hefyd nifer o dwmpathau fertigol, sy’n cael eu galw’n lleol yn ‘garnau’, a ddefnyddiwyd yn dargedau ymarfer yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gerllaw Doc y Gogledd mae’r doc hynaf yn Sir Gaerfyrddin – sy’n addas iawn yn cael ei alw’n Ddoc Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd, mae gwaith adfer mawr yn cael ei wneud ar y doc hwn, a fydd yn cynnwys llwybr cerdded ar hyd y doc a phaneli lliwgar am ei hanes hir.
Gweithfeydd Dur Llanelli
Y safle nesaf o bwys hanesyddol yw Parc Dŵr y Sandy, lleoliad gwaith dur mwyaf Llanelli. Cychwynnodd ei hanes diwydiannol yn 1907 pan agorodd Gwaith Dur Llanelli ei ddrysau, ac yn fuan iawn enw’r bobl leol arno oedd ‘Klondike’.
Am ddegawdau, llanwodd y gweithfeydd dirlun Llanelli wrth i’w simneiau enfawr chwydu mwg oedd yn aml yn gorchuddio’r dref gyfan. Roedd y tâl yn dda ond roedd amodau gwaith yn gyntefig. Gweithiai dynion a bechgyn ochr yn ochr â’i gilydd mewn awyrgylch poeth, llethol, lle'r oedd anafiadau a hyd yn oed farwolaethau yn gyffredin.
Gwellodd pethau yn 1960 wedi i’r cwmni o Ganada Duport Steel brynu’r gwaith ond pan aeth y cwmni i drafferthion ariannol 20 mlynedd yn ddiweddarach daeth y cynhyrchu i ben yn 1981 ac aeth y safle’n adfeilion.
Yr anialwch diwydiannol a ddilynodd hynny a’r penderfyniad i adfer y safle a’i drawsnewid yn Barc Dŵr y Sandy oedd y sbardun i adfywio arfordir Llanelli a arweiniodd yn y pendraw at greu Parc Arfordirol y Mileniwm.
Gorsaf Drydan Bae Caerfyrddin
Am 30 mlynedd o 1947, mae’n sicr mai’r nodwedd amlycaf ar yr arfordir gogleddol oedd Gorsaf Bŵer Bae Caerfyrddin ym Mhorth Tywyn. Roedd yn adeilad trawiadol ym mhob ystyr a daeth ei dri chorn simnai enfawr yn dirnod enwog yn y cylch.
Caeodd yr orsaf lo yn 1983 ond gadawodd ar ei hôl fwy na 200 erw o dir wedi’i orchuddio â lludw. Mae’n anodd dychmygu’r olion hynny heddiw gan fod y safle cyfan wedi’i drawsnewid yn Goetiroedd Cymunedol hardd.
Porth Tywyn
Mae tref Porth Tywyn yn gynnyrch y chwyldro diwydiannol ac, yn benodol, yr angen i allforio glo a gloddiwyd yn y cymoedd cyfagos i’r byd mawr tu allan.
Harbwr Pen-bre, a godwyd yn 1819, oedd doc cyntaf y dref ond oes fer fu iddo oherwydd problemau mynediad a chodwyd yn Doc Newydd Pen-bre yn ei le, a elwir erbyn hyn yn Harbwr Porth Tywyn, rai degawdau’n ddiweddarach.
Gwelodd yr Harbwr lawer o newid dros y blynyddoedd ond y trawsnewidiad mwyaf oedd o fod yn hen harbwr diwydiannol i farina hamdden cyfoes fel rhan o brosiect Parc Arfordirol y Mileniwm.
Yn 1927, enillodd yr Harbwr ei le yn y llyfrau hanes pan laniodd Amelia Earhart yn yr aber a dod y fenyw gyntaf i hedfan ar draws yr Iwerydd. Tynnwyd ei hawyren, Friendship, i’r harbwr ar ôl y daith 20 awr a 40 munud. Mae llawer i’n hatgoffa o’r hediad hanesyddol o gwmpas yr Harbwr ac yn y dref.