English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Mynydd Mawr 

Mae Parc Coetir y Mynydd Mawr wedi ei leoli rhwng y Tymbl, Dre-fach a Cross Hands ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth.

Yn ystod y bwrlwm diwydiannol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yr oedd yr ardaloedd gwledig traddodiadol hyn wedi eu trawsnewid yn bentrefi oedd yn frith o dai teras a glofeydd.

Mae mynediad hwylus i'r safle o bob cyfeiriad - mae tair mynedfa i gerbydau a thair mynedfa i gerddwyr.

Mae'r safle yn ymestyn dros 108 hectar (270 erw), lle mae rhyw 36 hectar (90 erw) yn goetir conwydd a chollddail ar hyn o bryd. 

Afon Gwendraeth Fawr yw ffin ogleddol y Parc ac mae'r tir ar y safle yn disgyn yn raddol.

Cyfeiriad y Parc:-

Uned Adloniant Cefn Gwlad

Parc Coetir Mynydd Mawr

Heol Hirwaun Olau

Y Tymbl

Llanelli

Sir Gaerfyrddin

SA14 6HU

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Coetir y Mynydd Mawr, ffoniwch 01269 843911.

 

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/5/2011
 
Manylion Cysyllt
 

Hamdden a Chwaraeon, Canolfan Adnoddau Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman
Telephone:01269 830001

E-bost: hamdden@sirgar.gov.uk