Crëwyd Parc Mynydd Mawr gan Gyngor Sir Caerfyrddin, sydd wedi bod yn berchen ar y safle ers 1996. Mae’r parc yn cynnwys dros 100 hectar ( 250 erw) o hen glofaol. Caewyd y ddau waith glo a arferai fod yma yn ystod yr 1960au ac fe drowyd y safle maes o law yn waith glo brig. Mae adfywiad naturiol a rheoledig y tirlun ers yr 170au wedi golygu bod yr ardal wedi cael ei thrawsnewid yn sylweddol.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r choedd, dechreuwyd ar y gwaith yn y parc yn ystod Rhagfyr 1998. Mae hen hanes y gweithfeydd glo a’r glo brig wedi gadael haenen o wastraff glofaol dros lawer o’r safle, ond mae coed helyg, bedw a deri yn tyfu yn naturiol dros y gwastraff glofaol, ac fe fyddant maes o law yn creu coedwig drwchus. Bydd yr ardal eang agored yng nghanol y parc yn cael ei gynnal fel glaswelltir oherwydd ei bwysigrwydd i adar sy’n nythu ar y ddaear, megis yr ehedydd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymedig i annog pobl i wneud defnydd of gefn gwlad, ac i gynnal parciau gwledig sy’n agored i bawb. Mae nifer o fudiadau wedi dangos cefnogaeth i agor u parc i’r cyhoedda chreu neu wella cynefinoedd bywyd gwyllt amrywiol. Mae gwirfoddolwyr a phobl sy’n chwilio am brofiad gwaith wedi body n gweithio ochr yn ochor a chontractwyr proffesiynol er mwyn datblygu llwybrau troed, ardaloedd picnic, cynefinoedd bywyd gwyllt a mannau gwybodaeth o fewn y parc
Heddiw, mae gan y Parc amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, a chynefinoedd pwysig sy’n cael eu rheoli er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fedru eu mwynhau. Mae rhwydwaith o lwybrau troed yn rhoi mynediad rhwydd i gerddwyr grwydro dolydd sy’n frith o flodau a choedwigoedd tawel, ac mae llwybr penodol ar gael i geffylau a beiciau mynydd. Ceir paneli gwybodaeth ar hyd a lled y parc sy’n rhoi hanes y tir a’r bobl a arferai fyw a gweithio yma.