Croeso i Barc Gwledig Llyn Llech Owain, ardal 64 hectar a reolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin er eich mwynhad.
Nodwedd ganolog y Parc Gwledig yw’r llyn ei hun a amgylchynir gan fawnog.
Coetir conwydd, a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y 1960’au sydd yng ngweddill y parc yn bennaf, ond mae yno hefyd ardaloedd o rostir sych a choetir llydanddail. Gallwch fynd am dro ar hyd rhwydwaith o lwybrau cerdded.
Mae gan nifer o’r llwybrau hyn wynebau da ac maent yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae llwybr arbennig a adeiladwyd yn arbennig yn caniatau i chi fynd yn ddiogel ar draws y fawnog ac o amgylch y llyn.
Os am fynd am dro hwy neu feicio o amgylch y Parc Gwledig, mae llwybr drwy’r goedwig ar eich cyfer a darparwyd llwybr beicio Mynydd garw ar gyfer y rhai mwy anturus yn eich plith.
Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Church Road, Gorslas,
Caerfyrddin, SA14 7NF.
(01269) 832229