Mae pobl yn ymweld â Pharc Gwledig Pen-bre am nifer o resymau gwahanol. Daw rhai i fwynhau'r rhyddid o grwydro o amgylch parcdir helaeth sydd yn ymestyn dros 202 o hectarau ac eraill i fanteisio ar un o draethau glanaf Cymru.
Mae ysblander Penrhyn Gŵyr a Bae Caerfyrddin yn gefndir i’r Parc, sydd wedi cael ei weddnewid yn un o’r prif atyniadau yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o’r glannau a chefn gwlad.
Cyfarwyddiadau i'r Parc
Gellir dod o hyd i'r Parc Gwledig gerllaw ffordd arfordirol yr A484 o Lanelli i Gaerfyrddin ger Porth Tywyn. Mae'r Parc oddeutu taith hanner awr mewn cerbyd o Gaerfyrddin ac oddeutu'r un pellter o Gyffordd 48 yr M4. Dilynwch yr arwyddion cyfeirio brown. Cliciwch yma i weld map.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Lleolir yr arhosfan bysiau ar gyfer y Parc 2 gilomedr o'r atyniad ac mae gwasanaeth X12 First Cymru yn galw yno. Yr orsaf rheilffordd agosaf yw Pen-bre a Phorth Tywyn sydd 6 cilometr o'r Parc. Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 08457 484950
Gall beicwyr a cherddwyr ddefnyddio Llwybr Parc Arfordirol y Mileniwm/Y Lôn Geltaidd i gael mynediad i'r Parc o Lanelli a Phorth Tywyn.
Oriau Agor neu Ymweld
• Mae'r Parc ar agor bob dydd o doriad gwawr hyd fachlud haul.
• Mae prif gatiau'r Parc ar glo rhwng 22:00pm ac 08:00am o'r 1af Hydref hyd 31ain Mawrth bob blwyddyn.
• Mae'r Ganolfan Ymwelwyr a Chanolfan Sgïo Pen-bre ar agor yn ddyddiol drwy gydol y flwyddyn (heblaw am rai dyddiau dros gyfnod y Nadolig) (Yn ogystal bob blwyddyn, bydd Canolfan Sgïo Pen-bre ar gau am bythefnos ym mis Mai ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol).
• Mae'r cyfleusterau eraill i gyd ar agor yn ddibynnol ar dymhorau (i gael manylion, gweler pob cyfleuster ar wahân).