Mynydd Y Betws
Safle picnic ar ochr y mynydd ar dir comin sydd (^a) golygfeydd ysblennydd. Bws agosaf Rhydaman/y Betws (3km). (Cyfeirnod Grid SN 652103)
Blaen Esgair
Ar y B4333, 5km i’r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn. Safle uchel gyda golygfeydd ar draws Dyffryn Teifi ac i Fynyddoedd Cambria. Gwasanaeth bws anaml I Maudsland. (Cyfeirnod Grid SN 329349)
Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili
2.5 hectar o dir deniadol Amgueddfa Caerfyrddin ger Llyn yr Esgob. Gwasanaeth bws rheolaidd o Gaerfyrddin i Abergwili. (Cyfeirnod Grid SN 444209)
Llwybr Dylan, Lacharn
Safle newydd uwchlaw’r aber ger y Boat House. Gwasanaeth bws rheolaidd i Lacharn. (Cyfeirnod Grid SN 305111)
Dryslwyn
Safle deniadol wrth dreod Castell Dryslwyn ar y B4297 gyda phaneli sy’n adrodd hanes y safle a thaith fer i’r castell. Ceir toiledau ar y safle yn ystod y tymor. Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd yn agos i Ddryslwyn. (Cyfeirnod Grid SN 552203)
Rhydodyn
Wrth ymyl y B4337 2km i’r gogledd o Dalyllychau ar ran o hen ffordd. Taith gerdded fer at weledfan ar Afon Cothi. Mae gwasanaeth bws anaml yn mynd i Dalyllychau. (Cyfeirnod Grid SN 634346)
Ffynnon Llawddog, Cenarth
Lleoliad deniadol iawn ar lannau Afon Teifi ychydig i lawr o Raeadrau/Pont Cenarth. Mae Ffynnon Llawddog ar y safle ynghyd (^a) llwyfan pysgota i’r anabl. Gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg o Gaerfyrddin i Aberteifi. (Cyfiernod SN 266415)
Y Grist, Lacharn
Nid nepell o Gastell Lacharn ac yn ymyl maes parcio gyda seddau a gwybodaeth esboniadol. Ceir gwasanaeth bws rheolaidd i Lacharn. (Cyfeirnod Grid SN 302104)
Mynydd Llanllwni
Gweledfan ar ochr y mynydd ar dir comin agored sydd (^a) golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Teifi a’r ardal wledig gyfagos. Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd i bentref Llanllwni (2km). (Cyfeirnod Grid SN 507389)
Castell Newydd Emlyn
(Stryd y Castell). Ardal hyfryd yng nghanol y dref yn edrych dros Afon Teifi ger y Castell ac yn ymyl y maes parcio. Mae tir y castell gerllaw, a thaith ddeniadol ar lan yr afon. Ceir gwasanaeth bws dyddiol rheolaidd i Gastell Newydd Emlyn. (Cyfeirnod Grid SN 312407)
Pontarffinnant, Llanarthne
Safle cysgodol mewn ardal goediog uwchlaw Afon Twyi 1km i’r gorllewin o Lanarthne ar y B4300. Ceir toiledau ar y safle yn ystod y tymor. Mae wedi’i leoli ar brif lwybr bysiau o Gaerfyrddin i Landeilo. (Cyfeirnod Grid SN 507202)
Dinas-Y-Bwlch
Ar y A483 ger ffin y Sir 10km i’r gogledd o Lanymddyfri. Mae taith gerdded fer i’r weledfan ar ben y bryn yn cynnig golygfeydd panoramig o Ddyffryn Tywi/Bannau Brycheiniog. Mae cyswllt rheilffordd gerllaw y safle. (Cyfeirnod Grid SN 835437)
Ynys Fach, Glandy Cross
Gweledfan ar ochr y ffordd ar yr A478 yn edrych dros Fynyddoedd y Preseli gydag ardal bicnic/eistedd (gaeedig. - please put two dots over the second e). Mae gwasanaeth bws anaml yn mynd i Glandy Cross. (Cyfeirnod Grid SN 157278)
Pen-y-Mynydd, Mynydd Pen-bre
Ardal bicnic newydd ei datblygu rhwng Pen-bre a Thrimsaran. Ceir golgyfeydd trawiadol o Gwm Gwendraeth a Bae Caerfyrddin. Man cychwyn da ar gyfer defnyddio’r llwybrau cerdded ar Fynydd Pen-bre gan gynnwys coetiroedd Bwlch Newydd a Waun Baglan. Bws agosaf – Trimsaran (2km). (Cyfeirnod Grid SN 454308)