
Mae awyrgylch cyfeillgar, parcio ar y safle, rhaglen o adnewyddiadau parhaus a thîm o staff cwbl gymwysedig oll yn rhesymau pam mae dros 200,000 o bobl bob blwyddyn yn mwynhau Canolfan Hamdden Dyffryn Aman Cyngor Sir Caerfyrddin.
A hithau wedi’i lleoli ger Ysgol Uwchradd y dref, mae’r cyfleusterau i’w llogi’n cynnwys dau bwll nofio deniadol, trac athletau, cyrtiau tennis, neuadd chwaraeon fawr a chae tyweirch astro dan lifoleuadau.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys pêl-fasged, dewis llawn o wersi nofio i oedolion a phlant, canolfan iechyd a ffitrwydd 34 llecyn a dewis llawn o bartïon pen-blwydd.
Felly, os ydych yn dod i gael trochiad ben bore, yn ymuno â ffrindiau ar gyfer dosbarth erobeg neu’n gwylio eich plant yn mwynhau gwneud ffrindiau newydd, cewch groeso yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01269 594517 neu anfonwch e-bost at hamdden@sirgar.gov.uk
Cip ar y gweithgareddau
- Dosbarthiadau Erobeg a Gwella Ffurf y Corff
- Badminton
- Clwb Iechyd a Ffitrwydd
- Pêl-droed pump-bob-ochr
- Gellir trefnu ar gyfer digwyddiadau arbennig
- Nifer o wahanol fathau o bartïon pen-blwydd i blant
- Sesiynau nofio hwyl gyda nwyddau chwyddadwy
- Gweithgareddau Gwyliau Ysgol
- Pêl-rwyd