Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw 5x60, sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rhagwelir y bydd y fenter hon yn gweddnewid y ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion uwchradd.
Estyniad i Gampau'r Ddraig yw'r fenter hon, a'r prif nod yw sicrhau bod y disgyblion yn cael hwyl wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Rhoddwyd Swyddogion 5x60 mewn Ysgolion Uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn cydlynu’r gwaith o gyflwyno’r cynllun. Rôl y swyddog 5x60 yw siarad â’r disgyblion, gwrando ar eu hanghenion a nodi a goresgyn yr anawsterau sy’n eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd. Yna mae rhaglen o weithgareddau allgyrsiol yn cael ei datblygu, yn seiliedig ar anghenion y disgyblion.
Pa ysgolion sy’n rhan o Gynllun 5x60?
Ers mis Medi 2008, cafodd pob un o’r 14 ysgol uwchradd prif ffrwd yn Sir Gaerfyrddin eu cyflwyno i’r cynllun trwy gyfres o dri cham. Er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ysgol leol, cysylltwch â’i Swyddog 5x60 ar y rhif isod.
Mae 5x60 yn rhoi cyfle i ysgolion:
- Ddatblygu rhaglen allgyrsiol ar gyfer anghenion y disgyblion
- Gwneud cysylltiadau gyda chlybiau yn y gymuned
- Dod o hyd i a datblygu gwirfoddolwyr yn yr ysgol a’r ardal
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau addas o gystadleuol yn erbyn ysgolion eraill
- Ffurfio partneriaethau gyda mudiadau addas
- Trwy gymryd rhan yn y rhaglen 5x60, bydd pobl ifanc wedyn yn:
Cael meddiant o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt
Mwynhau gweithgaredd
Cymryd rhan mewn gweithgaredd gydol oes ym mha ffurf bynnag maen nhw’n ei fwynhau