Mae’n hawdd cael tocyn hamdden ac fe fydd yn rhoi gostyngiad o hyd at *40% ichi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn unrhyw un o’r pedair canolfan hamdden a restrir isod.
Cynigir gostyngiad ar gyfer y gweithgareddau canlynol: y stiwdio ffitrwydd, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a gemau raced.
Felly os yw un o'r cynlluniau Tocyn Hamdden a restrir isod yn berthnasol i chi; y cyfan sydd angen ei wneud yw llenwi'r ffurflen gais, ei llofnodi a'i chyflwyno, gyda'r ffi berthnasol ac unrhyw brawf sy'n dangos eich bod yn gymwys i gael y tocyn, yn unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol: Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn, Llanelli a Dyffryn Aman.
* Cynigir gostyngiadau o hyd at 40% ar gyfer gweithgareddau detholedig yn y canolfannau hamdden a enwir uchod yn ystod yr oriau tawel. Cynigir gostyngiad o 10% ar adegau eraill.
Ystyr oriau tawel yw o'r adeg pan yw'r ganolfan yn agor hyd 4.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener, trwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn amodol ar yr oriau agor cyhoeddus.
I weld manylion llawn y gostyngiadau a gynigir, edrychwch ar y daflen brisiau yn un o'r canolfannau hamdden sy'n rhan o'r cynllun hwn.
Tocyn Myfyriwr
Yn aml iawn mae ffordd o fyw myfyrwyr yn arwain at wario’r mwyafrif o’r gyllideb wythnosol ar gwrw a byrgyrs. Bwriad ein tocyn myfyriwr yw sicrhau nad ydych yn diystyru eich corff yn llwyr drwy gynnig gostyngiadau o hyd at *40% ar gyfer gweithgareddau dethol, am £10 yn unig am flwyddyn.
Felly os ydych chi dros 14 oed ac am adael coleg â chymhwyster yn unig, ac nid bola cwrw, mynnwch docyn hamdden nawr!
Tocyn Budd
Cewch chi ac unrhyw blant dibynnol sy'n 16 oed neu'n iau hawlio gostyngiad o hyd at *40% os ydych chi'n derbyn un o nifer o fudd-daliadau sy'n cynnwys y canlynol: lwfans ceisio gwaith, cymhorthdal incwm, budd-dal analluogrwydd, budd-dal treth y cyngor neu fudd-dal tai a lwfansau anabledd.
Pris y tocyn yw £5 am chwe mis a rhoddir tocyn am ddim i blant sy'n ddibynnol ar ddeilydd y Tocyn Budd. Caniateir mynediad am ddim i hyd at ddau unigolyn, sy'n helpu person anabl i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n rhan o'r cynllun Tocyn Hamdden.
Tocyn Hŷn a Heini
Os ydych chi dros 60 oed, beth am fanteisio ar ostyngiad o hyd at * 40% ar gyfer gweithgareddau detholedig mewn canolfannau hamdden sy'n rhan o'r cynllun, am bris rhad o £10 am flwyddyn.
Felly os hoffech wneud eich doctor yn falch ohonoch a rhoi hwb i’ch calon, llenwch eich ffurflen gais am docyn hamdden heddiw.
Tocyn Teyrngarwch
I wobrwyo ein cwsmeriaid teyrngar am £10 yn unig y person am flwyddyn neu £5 os ydych chi'n 16 oed neu'n iau, cynigir gostyngiad o 10% ar gyfer gweithgareddau detholedig ar unrhyw adeg.
Gyda Thocyn Teyrngarwch gallwch archebu lle bythefnos ymlaen ar gyfer gweithgareddau fel y dosbarthiadau ffitrwydd a gemau raced.
Felly os ydych chi'n defnyddio'r canolfannau hamdden uchod yn rheolaidd, ymunwch heddiw er mwyn arbed arian ac archebu lle ymlaen llaw.
Gwneud cais am Docyn Hamdden
Mae'n hawdd gwneud cais am Docyn Hamdden. Dilynwch y camau isod:
Cam 1 Llenwch ffurflen gais gan ofalu eich bod yn llenwi pob adran yn gywir.
Cam 2 Galwch heibio i un o'r canolfannau hamdden a restrir gan fynd â'r canlynol gyda chi: ffurflen gais yr ydych wedi ei llenwi a llun i brofi pwy ydych, tystiolaeth sy'n dangos eich cyfeiriad a'ch bod yn gymwys i gael y tocyn, a'r tâl aelodaeth priodol.
Cynllun Tocyn Hamdden, Canolfan Hamdden Caerfyrddin,
Heol Llansteffan, Tre Ioan, Caerfyrddin SA31 3NQ