English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Fusion clwb iechyd a ffitrwydd 
fusion health and fitness

Os ydych am wella siâp eich corff, colli ychydig o bwysau, gwella iechyd, neu gadw’n heini am y tymor i ddod, Fusion yw’r lle i chi. Lleolir yng Nghanolfannau Hamdden Dyffryn.

Aman, Caerfyrddin, Chastell Newydd Emlyn a LLanelli. Dyluniwyd Clybiau Fusion gyda’r nod o ddarparu rhaglen iechyd a ffitrwydd gytbwys i bawb ni waeth beth yw eu hoedran, rhyw neu lefel o ffitrwydd, ac mae ganddynt ystod o beiriannau a chyfarpar i gyrraedd y nod hon.

Mae gan glybiau Fusion pheiriannau ffitrwydd â phwysau a fydd yn helpu i dynhau’r corff a gwella siâp y cyhyrau. Gallai ymaelodi â chlwb iechyd a ffitrwydd fod yn ddigon i godi ofn arnoch ond bydd ein hyfforddwyr yn groesawgar iawn ac yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol.

Bydd pob cwsmer yn cael sesiwn gyflwyno lle byddwn yn mesur eich lefel o ffitrwydd ar hyn o bryd ynghyd ag esbonio “pam” a “sut” y dylid defnyddio’r cyfarpar.

Ar ddiwedd y sesiwn hon, bydd gennych eich rhaglen ymarfer personol eich hun yn ogystal â’r hyder a’r wybodaeth i ymarfer yn ddiogel.    

Cysylltwch Fusion clwb iechyd a ffitrwydd

So to improve your health and fitness, contact you’re nearest Fusion Health and Fitness Club at:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin
01267 230874

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn
01239 711025

Canolfan Hamdden Llanelli
01554 774757
 
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
01269 594517

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/8/2009