Tîm o Achubwyr Bywydau yn dychwelyd i draeth Baner Las ym Mhen-bre

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Tîm o Achubwyr Bywydau yn dychwelyd i draeth Baner Las ym Mhen-bre 

: BAYWATCH TEAM: At your service to maintain beach safety at Cefn Sidan at the RNLI lifeguards Sophie Phillips, David John –hold

Bydd achubwyr bywydau yr RNLI yn dychwelyd i draeth Cefn Sidan ym Mhen-bre ddydd Sadwrn (12 Mai) i gynnig gwasanaeth diogelwch a chymorth cyntaf ar lefel uchel i’r cyhoedd ar gyfer tymor yr haf.  Bydd achubwyr bywydau’r elusen ar wyliadwriaeth rhwng 10am a 6pm bob dydd o ddydd Sadwrn tan ddydd Sul 2 Medi.

Mae achubwyr bywydau’r elusen eisoes wedi cwblhau pythefnos o hyfforddiant dwys ac wedi cael profion ffitrwydd hollbwysig i sicrhau bod pawb ar eu gorau ac yn barod am y gwasanaeth tymhorol.  Hwn fydd y pedwerydd tymor i achubwyr bywydau yr RNLI ddarparu gwasanaeth diogelwch ar draeth Cefn Sidan.

Dywedodd Rob Steele, Goruchwylydd Achubwyr Bywydau RNLI Abertawe:

“Mae achubwyr bywydau’r elusen yn edrych ymlaen at ddychwelyd i draeth Cefn Sidan ym Mhen-bre y penwythnos hwn.  Maen nhw i gyd wedi cael eu rhoi ar brawf yn ystod yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod eu lefel o ffitrwydd mor uchel â phosibl a’u bod wedi cael yr hyfforddiant gorau i helpu i achub bywydau ar draethau Cymru yr haf hwn.

“Gall achubwyr bywydau yr RNLI roi argymhellion a chyngor i helpu pobl ar y traeth i osgoi unrhyw ddamweiniau a allai ddigwydd yn ystod y dydd.  Bydd yr achubwyr bywydau yn gosod baneri coch a melyn ar y traeth bob bore a gofynnwn i’r cyhoedd aros rhwng y baneri hyn gan mai dyna’r lle mwyaf diogel i nofio.  Os ewch chi i drafferth codwch eich llaw a gweiddwch am gymorth a bydd yr achubwyr bywydau’n dod i’ch helpu.’

Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn falch iawn o safonau uchel Cefn Sidan ac o statws baner las y traeth. Bob blwyddyn mae’r traeth yn parhau i fod yn un o’r traethau prysuraf yng Nghymru. Mae presenoldeb parhaus achubwyr bywydau yr RNLI ochr yn ochr â’n gwasanaeth parcmyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cannoedd ar filoedd o bobl sy’n ymweld â’r traeth bob blwyddyn yn cael gofal da .”

 

Cyn ymweld â’r traeth yr haf hwn, mae’r RNLI yn cynghori’r cyhoedd i gofio rhai argymhellion diogelwch pwysig i helpu i sicrhau na fydd damweiniau’n debygol o ddifetha eu diwrnod


1. Ar draeth lle mae gwasanaeth Achubwyr Bywydau ar waith cofiwch nofio rhwng y baneri coch a melyn bob amser.
2. Peidiwch byth â defnyddio offer gwynt mewn gwyntoedd cryfion neu pan fydd y môr yn arw.
3. Edrychwch ar amseroedd y llanw cyn ichi fynd i’r traeth. Fel arall gofynnwch i achubwr bywyd.
4. Os ewch chi i drafferth codwch eich llaw a gweiddwch am gymorth.
5. Os gwelwch rywun mewn trafferth, rhowch wybod i achubwr bywyd. Os nad ydych chi’n gallu gweld achubwr bywyd, ffoniwch 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar y traeth edrychwch ar www.rnli.org.uk/beachsafety

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 14/5/2012