Yr Hyrwyddwr 50+

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Yr Hyrwyddwr 50+ 

Y Cynghorydd Tegwen Devichand, sef yr Hyrwyddwr 50+, yng nghwmni aelodau o Grŵp Llywio'r Fforwm 50+ yn eu cyfarfod yng Nghlwb BoY Cynghorydd Tegwen Devichand yw Hyrwyddwr 50+ newydd Sir Gaerfyrddin a hi sy'n gyfrifol am hyrwyddo buddiannau pobl hŷn yn y sir.
Mae'n olynu Arweinydd newydd y Cyngor, sef y Cynghorydd Kevin Madge a fu'n Hyrwyddwr er sefydlu'r Fforwm 50+ bum mlynedd yn ôl.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r Fforwm wedi tyfu'n gyson a bellach mae ganddo 1,350 o aelodau.
Meddai'r Cynghorydd Devichand: “Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r Fforwm. Rwy'n meddwl ei fod yn brosiect gwerth chweil.”
Meddai'r Dr Kevin Pett, Swyddog Polisi 50+: “Mae'r Fforwm 50+ yn mynd o nerth i nerth ac mae aelodau newydd yn ymaelodi â'r fforwm drwy'r amser.”
Cysylltwch â’r Fforwm 50+ i ymaelodi – mae'n gwbl rad ac am ddim. Yn ogystal â chynigion arbennig, cewch gopïau o Carmarthenshire Community Life, a chyfle i gael dweud eich dweud ynghylch gwasanaethau cyhoeddus.
Gellir cysylltu â’r Fforwm 50+ drwy ffonio 01267 234567 neu drwy anfon neges e-bost at: fforwm50+@sirgar.gov.uk
Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/8/2012