Meddwl yn Fywiog, Digwyddiad Corff Gweithredol

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Meddwl yn Fywiog, Digwyddiad Corff Gweithredol 

Mae Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru wedi ymuno â'r Fforwm 50 + i drefnu'r digwyddiad Meddwl yn Fywiog, Digwyddiad Corff Gweithredol ar ddydd Mercher 9 Mai yn y Ganolfan Hamdden Caerfyrddin.
Cynhelir y digwyddiad o 10am tan 3pm ac mae ar agor i bawb.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael - cliciwch yma am fwy o wybodaeth wwec.org.uk/

Bydd nifer o stondinau a gweithgareddau am ddim yn y neuadd chwaraeon, gan gynnwys arddangosiadau Cymorth Cyntaf, tylino, cerdded Nordig, cyflwyniad i e-lyfrau, teithiau tywys o amgylch y gampfa Fusion, ac o 10yb i 12yh: pwysedd gwaed, colesterol a phrofi glwcos.
Mae raffl am ddim i'r rhai sy'n mynychu a thaleb gostyngiad o 10% ar gyfer bwyd yng nghaffi’r ganolfan hamdden ar y diwrnod.

Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/4/2012