Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/11/2011
Apêl teganau Nadolig ar gyfer teuluoedd mewn angen
GOFYNNIR i bobl roi teganau newydd i helpu teuluoedd mewn angen.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Thŷ Myrtwydd yn Llanelli, Eglwys Gymunedol Tywi yng Nghaerfyrddin, yr Eglwys Efengylaidd yn Rhydaman, a Chymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon i helpu i wneud y Nadolig yn haws i bobl sydd mewn sefyllfa anodd yn economaidd. Hefyd mae'r 'Llanelli Star' a'r 'Carmarthen Journal' a’r ‘South Wales Guardian’ yn cefnogi'r apêl.
Mae cais yn cael ei wneud i bobl am deganau ar gyfer plant a phobl ifanc, yn fechgyn ac yn ferched, o'r crud hyd nes eu bod yn 16 oed. Mae sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, yn cynnwys y Cyngor, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Choleg Sir Gâr, yn gofyn i'w staff a fyddent yn hoffi cyfrannu.
Crëwyd pwyntiau casglu yn Nhŷ Elwyn; Neuadd y Dref, Llanelli; swyddfa'r 'Llanelli Star' yn Stryd Cowell; Neuadd y Sir; Heol Spilman; swyddfeydd y 'Carmarthen Journal' yng Nghaerfyrddin, swyddfa’r ‘South Wales Guardian’ yn Rhydaman a Neuadd y Dref, Rhydaman.
Yr unig beth y mae angen i bobl ei wneud yw dod â'u teganau. Mae'n rhaid i'r teganau fod yn rhai newydd am resymau iechyd a diogelwch, ac argymhellir bod pobl yn gwario o leiaf £5 y tegan. Wedyn caiff y teganau eu casglu'n rheolaidd ac eir â hwy i Dŷ Myrtwydd, Eglwys Gymunedol Tywi, yr Eglwys Efengylaidd a Chymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon er mwyn eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen.
Deilliodd y cynllun hwn o syniad gan y Cynghorydd Pam Palmer, Rheolwr Busnes Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd: “Rydym ni am wneud popeth yn ein gallu i helpu teuluoedd sy'n methu cynnig teganau newydd i'w plant yn eu hosan Nadolig. Y bwriad yw eu helpu i osgoi mynd i ddyled neu fynd at fenthycwyr didrwydded er mwyn talu am anrhegion.
“Po fwyaf o deganau y mae pobl yn eu rhoi, po fwyaf o gymorth y gallwn ni ei roi i'r sawl sydd ei angen fwyaf. Wedi'r cyfan, amser i roi ac i feddwl am eraill yw'r Nadolig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn hael ac yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i nifer o deuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar yr adeg hon o'r flwyddyn."
Roedd Tŷ Myrtwydd, Eglwys Gymunedol Tywi, yr Eglwys Efengylaidd a Chymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon yn barod iawn i helpu â'r cynllun. Dywedodd Bill Chapman, Gweinidog Tŷ Myrtwydd: “Mae llawer o deuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd.”