Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at
gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Chwilio am deuluoedd yn ardal Llanelli i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil arloesol
17/11/2010
Anogir teuluoedd yn Llanelli i wirfoddoli i fod yn rhan o brosiect ymchwil cenedlaethol sy'n gwerthuso sut y gall cryfhau teuluoedd helpu o ran atal pobl ifanc rhag camddefnyddio alcohol a chyffuriau.
Mae'r prosiect ymchwil nodedig hwn, sy'n cael ei gyllido gan y Fenter Ymchwil Atal Genedlaethol, yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Oxford Brookes.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o chwe awdurdod lleol yn unig ym Mhrydain a gafodd eu dewis i ddarparu'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd.
Gall unrhyw deulu yn Llanelli, sydd â phlant rhwng 10 a 14 blwydd oed, wirfoddoli i fod yn rhan o gam nesaf y cynllun a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol y Bryn, gan ddechrau ar 10 Ionawr.
Cynhelir y rhaglen ar ôl ysgol ar ffurf sesiynau byr dwy awr a hanner yr un am gyfnod o saith wythnos.
Bydd y sesiynau'n rhai anffurfiol a darperir bwyd a diod. Hefyd, cynigir gwobrau i'r rheiny sy'n cymryd rhan a darperir gweithgareddau chwarae a gofal plant ar gyfer y plant iau.
Cynhaliwyd rhaglenni mewn rhannau eraill o'r sir, gan gynnwys Castellnewydd Emlyn a Rhydaman.
Dywedodd Fran Dixon, Cydlynydd Cryfhau Teuluoedd: "Mae'r arddegau'n gallu bod yn gyfnod heriol i bobl ifanc a'u rhieni.
"Gwelwyd bod y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn cefnogi rhieni a phobl ifanc sy'n wynebu cyfnod o newid. Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o'r prosiect hwn a fydd yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio i deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin."
Gofynnir i deuluoedd sydd â diddordeb yn y cynllun gysylltu i gael rhagor o wybodaeth. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd teulu'n cael ymweliad cartref cyn i'r cynllun ddechrau.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Fran Dixon - Cydlynydd Cryfhau Teuluoedd - drwy ffonio 01554 744377 neu e-bostio frances.dixon@actionforchildren.org.uk