Comenius

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Comenius 

: The Chair of Carmarthenshire County Council Cllr Siân Thomas is pictured at Model School in Carmarthen with visiting teachers Mae Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyfarch grŵp o ymwelwyr o wledydd ledled Ewrop a hynny yn eu hieithoedd eu hunain.
Aeth y Cynghorydd Siân Thomas i Ysgol y Model yng Nghaerfyrddin a chyfarfod ag athrawon sydd wedi dod i Sir Gaerfyrddin fel rhan o brosiect Comenius, sy'n hybu cysylltiadau rhwng ysgolion yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Gwisgais y wisg Gymreig a llwyddais i gyfarch yr ymwelwyr mewn amryw o ieithoedd: Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Sbaeneg, Rwmaneg, Pwyleg a Thyrceg.
Mae grantiau Comenius ar gael drwy Raglen Gyllid Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhaglen yn targedu ysgolion o oedran meithrin hyd at oedran Addysg Bellach ac yn cynnig grantiau i ysgolion drefnu teithiau cyfnewid fel y gall staff a disgyblion weithio ar brosiectau sy'n gyffredin gydag ysgolion mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Liz Turner, cydgysylltydd Comenius yn Ysgol y Model: “Daeth athrawon o bum ysgol bartner Comenius mewn pum gwlad wahanol atom ar ymweliad cerdd, dawns a diwylliant.
“Rydym wedi rhannu diwylliannau ein gilydd ac maent wedi treulio amser yma ac yn yr adran gerdd yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth. Roeddent wrth eu boddau â'r cyfleusterau."
Dywedodd hefyd fod yr ymwelwyr wedi mwynhau clywed Côr Meibion Llanelli ac Opera Cenedlaethol Cymru.
“Yn ein cyngerdd, gwnaeth Cadeirydd y Cyngor ymdrech i groesawu pawb yn eu hieithoedd eu hunain a chanodd un o'nFollow us on Facebook disgyblion yr anthemau cenedlaethol ar y trymped. Roedd yn wych," ychwanegodd.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/7/2012