Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar bobl i gyfrannu wrth iddo ddechrau edrych ar ddulliau o wella a datblygu gwasanaethau Gofal Dydd ar gyfer pobl hŷn.
Mae'r Awdurdod yn dechrau prosiect a fydd yn edrych ar y gwasanaethau sydd ar gael i bobl yn ei Ganolfannau Gofal Dydd ac yn y cymunedau lleol, gyda golwg ar sicrhau bod cyfleusterau'n gallu dygymod ag anghenion pobl hŷn wrth iddynt newid.
Yn rhan o'r gwaith hwn, bydd swyddogion y Cyngor yn ymweld â chanolfannau gofal dydd y sir ac yn gwahodd unigolion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a rhanddalwyr i ddweud eu dweud ynghylch y math o wasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Yna, bydd cynllun gwella'n cael ei baratoi ac yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd Sheila Porter, Pennaeth Gofal Sylfaenol, Cymunedol, a Chymdeithasol: "Rydyn ni eisiau edrych ar y gwasanaethau sydd gennym yn y gymuned a thrafod sut y gallwn eu gwella a sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac i'r cleientiaid presennol, gan gefnogi gofalwyr a gweithio â chymunedau."
Gwasanaethau sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu gan gyrff gwirfoddol neu annibynnol yw gwasanaethau gofal dydd.
Gall pobl sy'n gymwys i dderbyn cymorth gofal cymdeithasol fynd i'r cyfleusterau hyn i gael cymorth â'u gofal personol, ymolchi a thrin gwallt; cyfarfod â phobl eraill, cael pryd o fwyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Dywedodd y Cynghorydd Pat Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae hwn yn gyfle gwych i ni edrych ar y gwasanaethau rydyn ni'n darparu a nodi sut y gallwn ni eu datblygu a'u gwella er mwyn diwallu'r galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer pobl hŷn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.sirgar.gov.uk
