English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/10/2011
Prinder Ymgeiswyr am Swyddi Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn y Sir  

Pwy sy'n agos at galonnau'r plant ond sydd hefyd yn digalonni gyrwyr sy'n canu corn eu ceir arnynt? Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.
Ie, ymddengys ei bod yn swydd nad oes fawr o apêl iddi oherwydd er holl ymdrechion glew swyddogion trafnidiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin mae 10 ysgol ar draws y sir â swyddi gwag i hebryngwyr croesfannau ysgol.
Gall yr oriau gwaith amrywio o 5 i 15 awr yr wythnos yn dibynnu ar yr ysgol ac mae'r tâl yn amrywio o £30 i £100 yn dibynnu ar yr oriau a weithir.
Nid yw'n hawdd cael hyd i rai sy'n barod i dderbyn yr her o fod yn Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, sy'n agos at galonnau'r plant ond sy'n cael eu trin yn wael gan rai modurwyr.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael anhawster dod o hyd i Hebryngydd Croesfan Ysgol newydd ym Mhen-bre. Roedd yr Hebryngydd a oedd yn ymddeol yn ffrind hoffus iawn i'r plant a'r rhieni ac mae'r gymuned wedi ymgyrchu i gael Hebryngydd i'w (h)olynu.
Ond er hysbysebu’n eang, un ymgeisydd yn unig a geisiodd am y swydd ac nid yw wedi dewis dilyn yr yrfa werth chweil hon gyda'r adran drafnidiaeth.
Mae'n rhaid cynnal archwiliad Swyddfa Cofnodion Troseddol o gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus oherwydd y bydd yr Hebryngydd yn gweithio gyda phlant.
Meddai'r Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod dros Drafnidiaeth ar Fwrdd Gweithredol y Sir: “Mae swydd yr Hebryngydd Croesfan Ysgol yn swydd ac iddi nodweddion da a drwg. Gall y plant y mae'n gofalu amdanynt roi llu o gardiau ac anrhegion Nadolig a phen-blwydd i'r Hebryngydd. Ond hefyd gall modurwyr diamynedd, sy'n gwrthwynebu gorfod aros tra hebryngir pobl ar draws yr hewl, ganu corn eu ceir ar yr Hebryngydd a'i (d)difrïo. 
“Mae'r Hebryngwyr yn gwneud gwaith anodd a gwerth chweil yn diogelu plant y sir a'u rhieni wrth iddynt fynd i'r ysgol ac adref ohoni ar adegau prysur iawn. Mae'n rhaid i’r Hebryngwyr fod o gwmpas eu pethau bob amser."
Yn y ddwy flynedd diwethaf, mae Gwobr Hebryngydd y Flwyddyn Kwikfit Insurance 2009 a 2010 wedi'i hennill gan Hebryngwyr o Sir Gaerfyrddin, sef Barrie Glover, Hebryngydd Ysgol Gynradd Hendy-gwyn a Miriam Jones, Hebryngydd  Pen-boyr.
Mae llawer o'r Hebryngwyr a gyflogir gan y Sir yn rhieni i blant sydd yn yr ysgol lle maen nhw'n gweithio, yn byw ger yr ysgol neu'n gweithio yn yr ysgol eisoes. Mae Barrie Glover yn oruchwylydd amser cinio ac yn gynorthwy-ydd cymorth dysgu yn Ysgol Hendy-gwyn.
Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn bod yn Hebryngydd Croesfan Ysgol ffonio Rhys John (01267 228285).