Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/10/2011
Ymarfer Ymateb mewn Argyfwng yn mynd yn hwylus
Barnwyd bod ymarfer amlasiantaeth, a gynhaliwyd i brofi sut y byddai Sir Gaerfyrddin yn ymateb pe bai llygru arfordirol yn digwydd, wedi bod yn llwyddiant.
Cafodd ymarfer yr Arfordir Celtaidd (Celtic Coast) – sef ymarfer yr oedd y gwasanaethau brys, amryw o awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn rhan ohono – ei gynnal dros ddeuddydd ddechrau mis Hydref.
Roedd y gweithgaredd ar ffurf cyfres o ymarferion pen bwrdd yng Nghanolfan Cydgysylltu Strategol newydd y Sir, ac i gyd-fynd â hwy cafodd adnoddau ac offer eu rhoi ar waith yn fyw ar y môr ac ar lan y môr yn nyfrffordd Aberdaugleddau ac ym Mharc Gwledig Pen-bre.
Ymhlith yr asiantaethau a gymerodd ran roedd Cynghorau Sir Penfro, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys; Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru; Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau; Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau; Heddlu Dyfed-Powys; Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cyngor Cefn Gwlad Cymru; Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Llywodraeth Cymru.
Er bod yr ymarfer yn seiliedig ar ffug-ddigwyddiad, ymatebodd pob asiantaeth mewn amser real, yn y modd y byddent wedi gwneud pe bai'r sefyllfa'n digwydd mewn gwirionedd.
Nod yr ymarfer oedd sicrhau bod pob asiantaeth yn barod i ymateb yn gydlynol ac yn effeithlon i lygru gan olew a chemegion o longau, er mwyn lleihau'r effaith ar y gymuned ac ar yr amgylchedd.
Dywedodd Richard Elms, Rheolwr Argyfyngau Sifil Cyngor Sir Caerfyrddin: “Aeth yr ymarfer yn hwylus iawn, a bu'n fuddiol iawn i'r holl asiantaethau a gymerodd ran ynddo. Bydd yr adborth a roddwyd gan bob asiantaeth yn cael ei ddefnyddio nawr i ddatblygu natur strategol unrhyw ymateb yn y dyfodol.
“Roedd yr ymarfer o gymorth arbennig hefyd i dynnu sylw at y cyfathrebu helaeth rhwng yr holl asiantaethau a gydweithiodd i ymateb i'r digwyddiad.”
Trefnir Ymarfer yr Arfordir Celtaidd fel rhan o brosiect ARCOPOL (Ymateb i Lygru Arfordirol yn Rhanbarthau'r Iwerydd), a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) o dan Raglen Weithredol Ardal yr Iwerydd.