Mae'r haul yn gwenu o'r diwedd ac mae pawb allan yn mwynhau'r tywydd braf.
Un o feini prawf tywydd da yn Sir Gaerfyrddin yw nifer y bobl sy'n tyrru i un o atyniadau mwyaf Cymru i ymwelwyr, sef Parc Gwledig Pen-bre.
Amcangyfrifir bod o leiaf 8,000 wedi ymweld â'r parc a
thraeth Baner Las Cefn Sidan ddydd Sul, ac roedd teirgwaith yn fwy o geir yno na'r penwythnos cynt.
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden: “Mae'r haul yn gwneud byd o wahaniaeth. Ar benwythnos Gorffennaf 14-15, pan oedd y tywydd yn gymylog ac yn gawodlyd, cafodd y parc ychydig dros 3,000 o ymwelwyr.
“Ond fe ddaeth mwy na 10,000 yno'r penwythnos diwethaf i fanteisio ar y tywydd ac roedd y traeth yng Nghefn Sidan yn edrych fel carden bost o Ibiza.”
Dywedodd Wyn Parry, sy'n barcmon yno: “Roedd hi'n dywydd picnic, barbeciw, a'r traeth ac roedd y tymheredd yn y 70au. Hyfryd oedd gweld cynifer o wynebau hapus a phobl yn mwynhau eu hunain o fore gwyn tan nos."
Meddai Laura Butler, sy'n groesawydd: “Roedd ffrisbis, peli rygbi traeth, eli haul, a bwcedi a rhawiau yn gwerthu'n well nag ymbrelas am y tro cyntaf yr haf hwn."
Roedd Canolfan Sgïo Pen-bre yn y parc yn fan poblogaidd ac fe aeth mwy na mil o bobl ar redfa dobogan hiraf Cymru - 'Cobra'.
Roedd bwyty Canolfan Sgïo Pen-bre yn brysur iawn ac roedd hufen iâ'n gwerthu'n hynod o dda. Hefyd roedd hufen iâ'n cael ei werthu ar hyd a lled y traeth drwy ddefnyddio bygi a oedd wedi'i addasu'n arbennig.

Bydd y consesiwn arlwyo ar gyfer bwyty'r safle gwersylla a'r cabanau traeth ar waith o Awst 1af ymlaen.