Gosod twmpathau i leihau damweiniau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Gosod twmpathau i leihau damweiniau 
02/02/2011 

Roedd y ffaith bod damwain wedi digwydd yno bob blwyddyn yn y pum mlynedd diwethaf yn rheswm digonol dros gyflwyno terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr y tu allan i'r ysgol yn Heol y Neuadd, y Tymbl.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, wrth wneud penderfyniad ynghylch lleihau cyflymder fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae pum anaf personol mewn pum mlynedd ar hyd y darn hwn o'r ffordd yn golygu bod yn rhaid cyflwyno mesur arafu traffig o'r fath."
Bydd y terfyn cyflymder yn cael ei gyflwyno ar yr A4310 y tu allan i Ysgol Gynradd y Tymbl.
Cysylltwyd â'r Heddlu, yr Aelodau Lleol, y gwasanaethau brys, a sefydliadau moduro, ac nid oedd yr un ohonynt yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Yn dilyn cyhoeddi hysbysiad ynghylch y newidiadau, daeth un gwrthwynebiad i law gan un o'r trigolion lleol, a awgrymodd na ddylid cyflwyno terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr ar brif lwybr traffig.
Gofynnodd yr unigolyn am i'r terfyn presennol o 30 milltir yr awr gael ei gadw, a hefyd awgrymodd y byddai'n rhaid cyflwyno nifer o fesurau arafu traffig yno cyn y byddai gyrwyr yn cydymffurfio â'r terfyn. 
Cerddwyr a anafwyd mewn dau o'r pum achos o anafiadau personol mewn damwain.
Mewn perthynas â phryderon yr unigolyn, dywedodd y Cynghorydd Hughes mai'r bwriad oedd gosod twmpath arafu estynedig y tu allan i fynedfa'r ysgol, yn ogystal â mesurau arafu traffig eraill yn cynnwys ymestyn darnau o'r pafin wrth gyffyrdd a gosod marciau ffordd cylchol. Yn ôl y Cynghorydd Hughes roedd y tîm rheoli trafnidiaeth o'r farn y gallent gael 85% o yrwyr i gydymffurfio â'r mesurau hyn.
Cytunwyd i fonitro'r effaith pan gyflwynid y mesurau, a phe na fyddent yn cael eu hystyried yn llwyddiant, byddai mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno.