Gwahoddiad i roi cynnig ar sesiynau bowlio
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/8/2011
Gwahoddiad i roi cynnig ar sesiynau bowlio 

Mae gwahoddiad i unrhyw un sydd am roi cynnig ar fowlio ddod i Stadiwm Bowlio Bro Myrddin, Heol Picton, Caerfyrddin.
Mae'r ganolfan yn agor ei drysau i'r cyhoedd er mwyn annog pobl o bob oed a gallu i ddechrau bowlio a hynny am £1 yn unig am bythefnos yn ystod sesiynau min nos rhwng 19eg a 30ain Medi. 
Mae gan y clwb adran iau weithgar a chynhelir sesiynau hyfforddiant ar gyfer plant 9 - 16 blwydd oed ar fore Sadwrn rhwng 10 ac 11.30am gan ddechrau ar 17eg Medi.
Mae'r adran iau yn rhan bwysig o'r clwb a rhoddir pob cyfle i'r bobl ifanc ddatblygu eu doniau. Cynhelir cystadlaethau ar gyfer chwaraewyr iau yn y clwb ac mae'r bobl ifanc fwyaf dawnus yn cael eu dewis i gynrychioli'r clwb mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Yn y gorffennol, mae nifer o chwaraewyr ifanc wedi cynrychioli Cymru. Y tymor diwethaf cafodd Steffan Harries, sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, y fraint o gynrychioli Cymru dan 18 oed.
Mae croeso i aelodau newydd bob amser.  I gael rhagor o fanylion am y sesiynau hyfforddiant ar fore Sadwrn cysylltwch â Nigel Davies, cydlynydd yr adran iau.
Am y tro cyntaf eleni, cynigir hyfforddiant hefyd ar gyfer oedolion sydd â diddordeb a gall pobl sy'n dymuno rhoi cynnig ar y gamp ddod i'r ganolfan lle bydd croeso cynnes yn eu haros.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden: "Mae yma gyfleusterau heb eu hail ac mae llawer o bobl o'r farn fod y stadiwm bowlio yn un o'r goreuon o'i fath yng Nghymru."
I gael rhagor o fanylion ynghylch Bowlio Dan Do Bro Myrddin ffoniwch 01267 238851.