
Bellach gall tenantiaid sy'n byw mewn Cynlluniau Tai Gwarchod yng ngogledd y sir gael cymorth i fynd i'r afael â mân dasgau.
Mae is-adran Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymestyn ei chynllun Tasgfan poblogaidd, a gafodd ei lansio fel cynllun prawf yn ardal Llanelli yn 2010.
Golyga hyn y gall tenantiaid sy'n byw mewn tai gwarchod a gynhelir gan y Cyngor alw am gymorth i wneud mân-atgyweiriadau o gwmpas y cartref, megis gosod lluniau a rheiliau llenni, llacio ffenestri a drysau sy'n drafferthus i'w hagor, a chydosod celfi sy'n dod mewn pecyn fflat.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan y Cyngor er mwyn cynnig gwasanaeth o werth ychwanegol i denantiaid, a hefyd er mwyn dilyn yr egwyddor bod cymryd camau ataliol yn rheolaidd yn golygu llai o geisiadau am waith atgyweirio mwy costus maes o law.
Yn ogystal, mae'n rhoi sicrwydd i'r tenantiaid taw gweithiwr cymeradwy y maent yn ei groesawu i'w cartrefi.
Dywedodd Chris Derrick, y Rheolwr Rhanbarthol: “Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod ei gyfnod prawf yn ardal Llanelli. Mae hyn wedi rhoi cyfle inni asesu effaith y cynllun a datrys unrhyw broblemau. Rydym ni wedi cael ymateb gwych gan y tenantiaid sydd wedi defnyddio gwasanaeth y Dasgfan. Maen nhw wedi dweud wrthym ni fod y Dasgfan wedi eu harbed rhag gorfod dibynnu ar berthnasau nad ydynt o bosibl yn byw yn yr ardal, ac wedi rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt."
Mae tasgmon sy'n siarad Cymraeg ac sy'n rhan o gynllun prentisiaethau'r Cyngor wedi cael ei benodi i'r swydd.
Gall tenantiaid drefnu i fân-atgyweiriadau gael eu gwneud drwy gysylltu â'u Swyddog Tai Gwarchod.
Dywedodd y Cynghorydd Colin Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Eiddo, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hwn yn gynllun gwych sy'n rhoi gwerth ychwanegol i'n tenantiaid ac sydd yno i roi cymorth iddyn nhw pan fo'r angen. Rwy'n hollol hyderus y bydd y cynllun yn llwyddiant ysgubol."
