Llanelli children’s centre hosts family fun day

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Canolfan Plant Llanelli yn cynnal diwrnod o hwyl i deuluoedd 

Bydd Canolfan Plant y Morfa yn Llanelli yn cynnal diwrnod o hwyl y gwanwyn i deuluoedd wrth ddathlu ei phen-blwydd cyntaf.

 

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 2pm ddydd Llun, Ebrill 2, a bydd gweithgareddau difyr ar gael am ddim i blant o bob oed.

 

Mae’r ganolfan yn rhan o Ysgol newydd Maes y Morfa, a ddatblygwyd fel rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Mae yng ngofal Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin, mewn partneriaeth â Dechrau’n Deg, Plant Dewi a CYCA, ac mae’n darparu rhwydwaith o wasanaethau integredig o ran addysg, iechyd a chymorth i deuluoedd sy’n cefnogi plant a theuluoedd.

 

Meddai Janine Patrick, Swyddog Datblygu Cychwyn Cadarn:

 

“Bydd y diwrnod o hwyl i’r teulu yn gyfle i’r ganolfan agor ei drysau i deuluoedd sydd heb ddefnyddio’r cyfleusterau o’r blaen.
“Bydd y digwyddiad yn gychwyn bywiog i wyliau’r ysgol, ac rydym yn gobeithio gweld llawer o wynebau newydd a chyfarwydd yn ystod y dydd.”Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/3/2012