Llwyddiant Cyllido ar gyfer Sir Gaerfyrddin Wledig
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Llwyddiant Cyllido ar gyfer Sir Gaerfyrddin Wledig 
22/12/2010 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau grantiau cyllido gwerth mwy nag £8 miliwn i adfywio cefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Derbyniodd yr awdurdod lleol gyllid grant yn sgil ail gam y Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) ar gyfer 2007-2013, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Nod rhaglen y CDG yw cefnogi adfywio mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n rhan o’r £800m (oddeutu) y cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd y byddai Cymru’n ei dderbyn. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi denu 15% o'r £54m a oedd ar gael i Gymru . Roedd 7 prosiect blaenllaw yn Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cais llwyddiannus gan ddenu dros £8m.
Bydd cam 2 yn adeiladu ar lwyddiant y pecyn prosiectau gwerth £4m sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflawni dan Gam 1.  Mae llawer o gymunedau lleol wedi elwa o'r cyllid hwn yn barod gan gynnwys Siop a Swyddfa Bost Dryslwyn, Canolfan Deulu Pencader, Clwb Gwaith Hendy-gwyn, Gŵyl Calon y Ddraig yng Nghastellnewydd Emlyn, Neuadd Goffa Llansteffan, YMCA Llanymddyfri, Neuadd Les Carmel, y farchnad sirol yn Llandeilo, Canolfan Adnoddau Llanmilo, Prosiect Hanes Llanllwni a'r Farchnad Fwyd yn Sanclêr. Nawr, bydd rhagor o ardaloedd gwledig yn Sir Gâr yn elwa o gael gwell cyfleusterau hamdden a diwylliant, prosiectau twristiaeth, cymorth busnes a chynlluniau newydd i greu swyddi.
Egwyddor allweddol yr ail gam yw rhoi mwy o bwyslais ar brosiectau strategol sy'n hybu twristiaeth a threftadaeth, gwella cyfleusterau lleol a’r amgylchedd a darparu grantiau ar gyfer mentrau bychain. Bydd Cam 2 yn cychwyn ym Mawrth 2011 a bydd cyllid ar gael tan fis Rhagfyr 2013.
Y canlynol yw'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid: Cefnogi Amaethwyr i Arallgyfeirio, a dderbyniodd grant gwerth £942,000 o'r Cynllun Datblygu Gwledig i ddiogelu dyfodol teuluoedd sy'n ffermio drwy eu helpu nhw i arallgyfeirio; Cryfhau apêl twristiaeth, sy'n derbyn £1.2m  i gryfhau hunaniaeth cefn gwlad Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan o safon i ymwelwyr gydol y flwyddyn; Cynhwysiad Cymunedau Gwledig sy'n cael £1.5m i fynd i'r afael â materion mynediad ac eithrio cymdeithasol yng nghefn gwlad; Canolbwyntiau Arloesol, a gafodd grant gwerth £2.6m i feithrin cymunedau gwledig iachus a chynaliadwy; Gwelliant Sgiliau Cefn Gwlad, a fydd yn derbyn £668,000 er mwyn rhoi sylw i fylchau yn y ddarpariaeth sgiliau; Grant CDG ar gyfer Entrepreneuriaeth Wledig: £1.3m i hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc a chreu diwylliant mwy o entrepreneuriaeth yn yr economi wledig; a Darganfod Sir Gâr sydd wedi cael grant gwerth £759,000 i gryfhau hunaniaeth Sir Gaerfyrddin wledig fel lle i fyw ac i ymweld ag ef.
Meddai'r Cyng. Clive Scourfield, yr aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Adfywio a Hamdden: "Dyma newyddion gwych. Roedd ein gwaith dan Gam Cyntaf y Cynllun Datblygu Gwledig yn llwyddiannus iawn ac mae'r swyddogion wedi rhagori arnynt eu hunain unwaith eto. Mae'r cynlluniau'n cynnig budd mawr i gymunedau yn Sir Gâr."
Ychwanegodd y Cyng. Meryl Gravell, Arweinydd y Cyngor:  "Mae'n newyddion ardderchog i Sir Gâr. Rydym ni'n ffodus i gael staff sy'n gallu llunio'r fath gynigion da a dyna pam rydym ni wedi cael cymaint o arian. Bydd hyn yn helpu llawer o brosiectau yng nghefn gwlad Sir Gâr.
Dywedodd Mark James, y Prif Weithredwr: "Roedd y broses ymgeisio'n un gystadleuol iawn a lluniwyd achos busnes cryf i sicrhau bod saith prosiect blaenllaw yn Sir Gaerfyrddin yn cael 15 y cant o'r holl gyllid a oedd ar gael.
"Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod lleol mwyaf llwyddiannus o ran cael arian dan ail gam y Cynllun Datblygu Gwledig sy'n arwydd o gryfder ein tîm a wnaeth gynnig am y buddsoddiad hwn yn ein cymunedau. Mae'n hwb sylweddol i'n cymunedau gwledig."
Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog y Gweinidog dros Faterion Gwledig: "Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig yn fecanwaith pwysig iawn ar gyfer datblygu cymunedau gwledig. Rhwng 2007 a 2013 bydd yn fodd i ddod â £795 miliwn o gyllid i'r Gymru wledig .
"Mae’r £8m yr wyf wedi'i gyhoeddi yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau mewn cymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Nod pob un o’r prosiectau yw gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig
"Elfen bwysig o hyn i gyd yw mai Grwpiau Gweithredu Lleol, gyda help pobl leol, sy’n cynhyrchu’r syniadau am brosiectau. Dyma’r bobl sy’n gwybod orau am anghenion eu cymunedau o ran gwella’r amgylchedd, yr economi a thwristiaeth leol."
"Bydd llawer o’r prosiectau a gafodd eu cymeradwyo yn rhoi hwb i economïau lleol wrth i’r dirwasgiad byd-eang ac adolygiad o wariant Llywodraeth San Steffan barhau i effeithio ar Gymru trwy ein gorfodi i wynebu toriadau llym.”