Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/8/2011
Mwynhewch wyliau'r haf heb i ladron eu difetha
Mae preswylwyr yn cael eu rhybuddio ynghylch sicrhau nad yw eu gwyliau haf yn cael eu dinistrio gan ladron.
Os ydych yn mynd i ffwrdd, sicrhewch fod eich cartref yn ddiogel er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr trosedd.
Mae'r heddlu'n dweud bod nifer o achosion o ddwyn o dai gwag yn ddiweddar gan gynnwys y rheiny sydd ag arwydd 'ar werth' y tu allan.
Dywedodd Anthony George, Swyddog Diogelwch Cymunedol: “Mae lladron yn targedu boeleri copr, pibellau a systemau gwres canolog gan fod pris metel sgrap yn uwch nag erioed.
"Rydym yn cynghori perchnogion i sicrhau bod eu tai'n ddiogel ac os oes modd, gofyn i gymydog gadw llygad ar eich tŷ. Ystyriwch osod larwm batri wrth y fynedfa neu hyd yn oed olau diogelwch. Yn ogystal, sicrhewch fod y brif bibell ar gyfer y dŵr wedi cael ei chau; mae rhai tai wedi cael eu difrodi’n ddifrifol gan lifogydd ar ôl i ladron dynnu'r pibellau dŵr a gadael i'r dŵr lifo allan, a hynny am ddyddiau weithiau."