Mae’r Arolwg Cenedlaethol i Gymru yn astudiaeth o oedolion ledled Cymru gyfan. Mae’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, ac yn gofyn am farn pobl am:
- eu gwasanaethau cyhoeddus lleol, er enghraifft trafnidiaeth, addysg, a gwasanaethau iechyd
- eu hardal leol a’u cymdogaeth
- pa mor dda y mae’r llywodraeth yn perfformio, yn lleol ac yn genedlaethol
Mae’r ymchwil hon yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan ddau sefydliad ymchwil annibynnol, TNS-BMRB a Beaufort Research.
Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil yma, neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Sam Sullivan yn TNS-BMRB ar y rhif rhadffôn 0800 015 2479 neu ar arolwgcenedlaetholcymru@tns-bmrb.co.uk.