Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/9/2011
Gweithredu Polisi Newydd ar gyfer Mynediad at Dai Cymdeithasol
MAE polisi newydd ar gyfer Mynediad at Dai Cymdeithasol wedi dod i rym yn Sir Gaerfyrddin.
Cyflwynwyd y polisi newydd ar Fedi 19, gyda'r bwriad o sicrhau y caiff pobl fynediad tecach i dai cymdeithasol.
Datblygwyd y polisi ar ôl ymgynghori helaeth a oedd yn cynnwys ymgeiswyr am dai, tenantiaid, cynghorwyr, staff y cyngor a staff cymdeithasau tai, yn ogystal â chyrff statudol a gwirfoddol.
Mae'r polisi newydd yn defnyddio system bwyntiau syml, ac mae'n unol â pholisïau cymdeithasau tai sy'n bartneriaid.
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i'r Cyngor roi blaenoriaeth i aelwydydd sy'n ddigartref neu sy'n byw mewn tai afiach neu orlawn, neu lle mae amodau anfoddhaol eraill; aelwydydd y mae angen symud arnynt er rhesymau meddygol neu les; ac aelwydydd y mae angen iddynt fyw mewn rhan benodol o'r sir er mwyn osgoi tlodi.
Hefyd mae blaenoriaethau lleol wedi cael eu pennu a'u hystyried wrth lunio'r polisi newydd.
Ymhlith y bobl sy'n cael blaenoriaeth y mae'r rhai sydd â'r angen meddygol mwyaf, y rhai y mae angen eiddo sydd wedi'i addasu'n benodol arnynt, a'r rhai y mae angen symud arnynt er mwyn lleihau'r achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal - a elwir hefyd yn 'methu rhyddhau gwelyau.'
Yn ogystal mae'r polisi newydd hwn yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau sy’n golygu y defnyddir rhagor ar y stoc tai cymdeithasol - er enghraifft, pobl sy'n denantiaid gyda'r cymdeithasau tai neu'r cyngor ar hyn o bryd ac sydd am symud i eiddo llai neu fwy.
Er mwyn cydnabod yr angen am gynnal cymunedau sefydlog, rhoddir blaenoriaeth hefyd i aelwydydd sydd am gael eu hailgartrefu yn y ward y maent yn byw ynddi ar hyn o bryd.
Dywedodd Chris Beer, y Rheolwr Dewisiadau Tai: “Rydym ni am ddarparu'r gwasanaeth tai gorau posibl a gwneud gwelliannau ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae'r polisi newydd yn sicrhau bod mynediad at dai cymdeithasol yn y sir yn adlewyrchu ymrwymiadau statudol a blaenoriaethau lleol allweddol. Hefyd mae'r polisi wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu'r union angen am dai."
Bydd yr holl ymgeiswyr ar y Gofrestr Dewis Tai, sef tua 8,000 o bobl ar hyn o bryd, yn cael llythyr yn nodi eu pwyntiau newydd, ynghyd â chrynodeb o'r polisi.
Yn achos y bobl nad yw eu hanghenion o ran tai ymysg y rhai a gaiff flaenoriaeth, bydd staff yr Is-adran Dai yn barod i roi cyngor iddynt am ddewisiadau eraill o ran tai.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Yn sgil proses ymgynghori bu i ystod helaeth o bobl gyfrannu at y polisi. O ganlyniad mae'r polisi'n diwallu'n well yr angen am dai yn lleol, yn fwy cefnogol i gymunedau, ac yn haws i'w ddeall. Hefyd mae'n decach ac yn fwy clir."
Mae copïau o'r polisi diwygiedig ar gael o swyddfeydd y Cyngor neu'r cymdeithasau tai. Hefyd gellir cyrchu'r polisi ar y tudalennau sy'n rhoi sylw i faterion tai ar wefan y Cyngor: www.sirgar.gov.uk