Mentrau treialu newydd i gynyddu ailgylchu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/6/2011
Mentrau treialu newydd i gynyddu ailgylchu 

Mae mentrau newydd yn cael eu treialu yn Sir Gaerfyrddin i helpu preswylwyr i ailgylchu rhagor.
Mae'r mentrau'n cynnwys darparu bagiau lled-dryloyw yn rhad ac am ddim ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu a bagiau starts i leinio biniau gwastraff bwyd mewn pedair ardal dreialu.
Mae'r cynlluniau'n cael eu cyflwyno ar gais y Bwrdd Gweithredol i'w gwneud cyn hawsed ag y bo modd i breswylwyr ailgylchu, ac er mwyn helpu Sir Gaerfyrddin i gyrraedd ei tharged, sef ailgylchu/compostio 52 y cant o'i gwastraff erbyn 2012/13.
Bydd y bagiau leinio a wnaed o starts yn cael eu rhoi i 8,000 o breswylfeydd dan gynllun treialu i weld a fydd mwy o fwyd yn cael ei gasglu.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd Meryl Gravell: “Rydym wedi gwrando ar y preswylwyr ac rydym yn cyflwyno'r cynllun treialu hwn i'w gwneud yn haws i bobl ailgylchu. Byddwn hefyd yn ymgynghori'n helaeth ynghylch ailgylchu a sut y gellid ei wella.”
Caiff yr arolwg ei gynnal yn yr hydref drwy gyfrwng Newyddion Sir Gâr, gwefan y Cyngor, y cyfryngau lleol, y Panel Dinasyddion a'r Fforwm 50+. Hefyd bydd y swyddogion ailgylchu'n mynd o ddrws i ddrws mewn rhai ardaloedd.
Byddwn yn dal i ddarparu bagiau glas heb gyfyngu ar eu nifer. Gellir eu casglu un ai o Ganolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor neu o amrywiol leoedd cymunedol, neu gallwn ddod â hwy i garreg y drws ar gais a hynny'n rhad ac am ddim. Bydd y bagiau lled-dryloyw ar gael i'w casglu'n rhad ac am ddim o bob Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Os dymunant, bydd yn dal yn bosibl i bobl ddefnyddio'r bagiau du a/neu gyfuniad o'r bagiau du a'r bagiau lled-dryloyw ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Y llynedd, ailgylchwyd ychydig yn fwy na 43% o'r gwastraff, sy'n galonogol iawn, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud os ydym i gyrraedd y targed o 52%. Mae'n hanfodol ein bod yn arbed, yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu yn lle dim ond taflu pethau. Byddwn yn annog preswylwyr i ddefnyddio eu cynllun ailgylchu a'n helpu ni yn ein hymgyrch i ddod yn sir 'dim gwastraff o gwbl'.”
Mae'r Cyngor yn gweithio hefyd gydag Age Concern Sir Gaerfyrddin i helpu pobl hŷn i ailgylchu. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i gasglu'r bagiau glas a'r bagiau lled-dryloyw pan fydd angen ac yn helpu pobl i ddidoli eu sbwriel ac yn mynd â'r gwydr i'w ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, yr Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Mae hon yn fenter ragorol a fydd yn helpu pobl hŷn y mae angen cymorth arnynt.”