Mae pymtheg o bobl yn paratoi ar gyfer eu diwrnod mawr ar ôl derbyn llythyron yn eu gwahodd nhw i gael cyfweliad ar gyfer Camau Nesaf 2012.
Cafodd yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eu dewis o blith llu o gynigion gan bobl ledled Sir Gaerfyrddin a oedd eisiau cael y cyfle i gymryd rhan yn un o'r cystadlaethau mwyaf unigryw yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r Camau Nesaf yn cynnig cyfle i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn yn y sir i gystadlu am brentisiaethau amser llawn â chyflog gyda Lloyd & Gravell Ltd sef cwmni adeiladu lleol.
Cynhelir y gystadleuaeth bob haf gan Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd sef y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr a Carmarthenshire Construction Training Association Ltd ar y cyd â Lloyd & Gravell.
Yn dilyn deuddydd o gyfweliadau ar 2 a 3 o Orffennaf, caiff deg o bobl eu dewis i fynd ymlaen i'r cam nesaf sef wythnos gyfarwyddo yng Ngholeg Sir Gâr. Hwn fydd profiad cyntaf nifer o'r ymgeiswyr o gael codi offer gwaith saer neu offer plastrwr.
Ar ddiwedd yr wythnos yn y coleg, caiff y chwe ymgeisydd terfynol eu dewis i weithio ar safleoedd adeiladu go iawn drwy gydol yr haf lle byddant yn ymladd am y brif swydd.
Dywedodd Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr: “Mae'r gystadleuaeth flynyddol hon yn gyfle gwych oherwydd mae'n agored i unrhyw un yn y sir sydd o oedran gweithio boed yn ddyn neu'n fenyw waeth beth fo'u profiadau neu eu cefndir cymdeithasol.
“Mae'n crynhoi ethos Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd gyda'r bwriad o ddarparu hyfforddiant â chymorth a chyfleoedd gwaith ar gyfer y gymuned gyfan."
Ychwanegodd Kevin Gravell, Cyfarwyddwr Lloyd & Gravell Ltd: “Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r 15 ymgeisydd rydym wedi eu dewis, a phob dymuniad da iddynt yn eu cyfweliadau. Bydd y cyfweliad yn cynnig cyfle gwych iddynt ddweud wrthym yn eu barn nhw pam y maen nhw'n haeddu'r cyfle i gystadlu am y brentisiaeth."
Bydd yr ymgeiswyr sy'n cael eu dewis i gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Camau Nesaf eleni yn cymryd rhan mewn blogiau fideo drwy gydol yr haf. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr ymgeiswyr a'r gystadleuaeth wrth iddi fynd yn ei blaen, ymunwch â ni ar www.facebook.com/nextstepscarmarthenshire ac ar
Twitter @NextSteps2012
Yn ogystal, gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf ar
www.nextstepscarmarthenshire.co.uk