Parc Heol Pantyffynnon

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Parc Heol Pantyffynnon 

: Jack Middleton, aged eight, enjoys the zip wire watched by grandfather Harry Middleton.Mae plant yn ardal Heol Pantyffynnon, Rhydaman yn mwynhau maes chwarae cyffrous newydd sy’n cynnwys gwifren wibio.
Mae Parc Heol Pantyffynnon wedi cael ei adnewyddu’n llwyr yn sgil derbyn grant o £50,000 drwy Gronfa Cymunedau Tirlenwi FCC Environment a weinyddir gan y Corff Amgylcheddol WREN.
Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin a Phartneriaeth Pantyffynnon wedi cydweithio i drawsnewid y parc.
Cafodd y parc ei ailagor yn swyddogol ar y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gan Anita Jones,  ymgyrchwr sy’n byw drws nesaf i’r parc.
Dywedodd Mrs Jones, 85 oed, fod y parc wedi cael ei roi’n wreiddiol gan Arglwydd Dinefwr ac, fel aelod o bwyllgor y neuadd, ei bod hi wedi helpu i ddechrau’r broses o gael hyd i ffordd o’i adnewyddu.
“Fy wyrion a wyresau oedd y cyntaf i ddefnyddio’r parc. Roedden nhw’n gallu gweld yr offer yn cael ei osod o’m ffenestr!”
Dywedodd Carol Cadman, Is-gadeirydd Partneriaeth Pantyffynnon: “Roedd angen gwella’r parc ac roeddem ni’n ddigon ffodus i gael grant o £50,000 gan WREN. Nid yw’r prosiect wedi cymryd amser hir.
“Buom ni’n ymgynghori â rhieni a phlant ynghylch pedwar cynllun a dewiswyd y cynllun buddugol yn unfrydol.
“Ers i’r parc agor mae wedi bod dan ei sang, hyd yn oed yn y glaw.”
Dywedodd Paula Treharne, Maer y Dref a Chadeirydd y Bartneriaeth: “Mae’n wych. Mae’n dangos beth gallwch chi ei gyflawni drwy gydweithio. Mae’n lle diogel i’r plant chwarae.”
Dywedodd Eamonn Davies, swyddog meysydd chwarae Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae pobl wedi gwneud llawer o waith caled i droi maes chwarae di-raen yn un hyfryd iawn. Fe wnes i lunio cynlluniau a bu’r plant yn edrych arnynt ac yn dweud beth roedden nhw am gael yn y parc. Y wifren wibio a’r siglenni sydd fwyaf poblogaidd.”
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Adfywio a Hamdden: “Rwy’ wrth fy modd bod y gymuned, y cyngor a WREN wedi cydweithio i adnewyddu’r maes chwarae hwn. Mae’n lle arbennig o dda.”
Dywedodd Meleri Jones, rheolwr grantiau WREN “Mae’r prosiect hwn wedi dangos sut mae cydweithio yn gallu rhoi bod i bethau yn y gymuned. Rydym ni’n falch o gael cefnogi’r prosiect hwn a fydd o fudd i blant a phobl o bob oedran a gallu yn yr ardal.”
Dylai sefydliadau a grwpiau cymunedol sy’n chwilio am gyllid ar gyfer prosiectau llesol edrych ar y wefan www.wren.org.uk neu gysylltu â WREN drwy ffonio 01953 717165.
 Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 07/8/2012