Promoting the Welsh Language in Leisure

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Hyrwyddo’r Gymraeg ym maes Hamdden 

 

Mae Adran Hamdden Cyngor Sir Gâr wedi bod yn cydweithio gyda Chynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion o dan gynllun Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  

 

Nod y prosiect oedd sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr Iaith yn y maes Hamdden ar draws siroedd y Fro Gymraeg.

 

 Mae gan y maes hamdden botensial mawr i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws sbectrwm o weithgareddau a diddordebau.

 

Bydd y Pencampwyr Iaith yn codi proffil yr iaith trwy ddefnyddio’r iaith yn y gweithle, mewn cyfarfodydd, a gyda dysgwyr.

 

Enwebwyd pedwar o Bencampwyr o Ganolfannau Hamdden ar draws y sir – Hannah Dunn yng Nghaerfyrddin, Huw Jones yng Nghastellnewydd Emlyn, Steffan Jones yn San Clêr a Fiona Pugh-Evans yn Rhydaman.

 

 Yn dilyn tridiau o hyfforddiant ar y cyd â’r siroedd eraill, cytunodd y Pencampwyr ar gyfres o gamau gweithredu i’w cwblhau yn ôl yn eu canolfannau.

 

Nododd Ian Jones, Pennaeth Hamdden a Chwaraeon y Cyngor, “ Mae bod yn rhan o’r prosiect gweithleoedd dwyieithog yma wedi bod yn gyfle euraidd i staff y canolfannau i ddatblygu’n broffesiynol ac i wneud y gorau o’u sgiliau Iaith”.

 

Ychwanegodd Chris Burns, Prif Weithredwr Cynorthwyol y Cyngor, “Rydym fel Cyngor, bob amser yn awyddus i gefnogi staff i weithio’n ddwyieithog yn y gweithle. Wrth feithrin hyder ein staff, gallwn sicrhau gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid”.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi’r Pencampwyr yn eu gwaith a bydd cyfle i ddatblygu camau gweithredu pellach yn y dyfodol agos.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Polisi Corfforaethol drwy IaithGymraeg@sirgar.gov.uk

Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/3/2012