Tafarn yr Wythnos

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Tafarn yr Wythnos 

Mae tafarnau Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle i roi gwybod i ymwelwyr am y croeso sydd ar gael iddynt yn y Sir.
Mae'r Cyngor Sir yn paratoi ar gyfer lansio ymgyrch Tafarn yr Wythnos er mwyn rhoi cyfle i dafarnau gorau Sir Gaerfyrddin ddangos yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig.
Cafodd Adain dwristiaeth y Cyngor y syniad ar gyfer yr ymgyrch hon ar ôl edrych sut orau y gellir hysbysebu amrywiaeth eang o dafarnau Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu i ddenu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad dymunol yn ystod eu hamser yma.
O'r wythnos sy'n dechrau ar 11 Mehefin, mae'r Cyngor Sir yn ariannu ymgyrch hysbysebu newydd gyda Radio Sir Gâr a Scarlet FM i ganfod tafarnau ledled Sir Gaerfyrddin a allai gael ei henwi yn 'Tafarn yr Wythnos Sir Gaerfyrddin.'
Fel rhan o'r ymgyrch hon, byddant yn cael hysbyseb am ddim ar y radio ac yn cael eu cynnwys yn adran tafarnau/bwyd/diod ar wefan www.darganfodsirgar.com a thaflenni a hysbysebion twristiaeth eraill yn ogystal â deunydd cyfathrebu i 9,500 o weithwyr y Cyngor Sir.
Dywedodd Huw Parsons, Rheolwr Marchnata a Thwristiaeth y Cyngor: “Mae oddeutu 37% o'r arian sy'n cael ei wario gan ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin yn mynd ar fwyd a diod. Mae hyn yn dod i gyfanswm o oddeutu £100 miliwn ac mae'n elfen hanfodol o'r economi twristiaeth.
“Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod ymwelwyr yn gwybod am yr ystod eang o dafarnau sy'n cynnig bwyd a diod da sydd ar gael gennym yn Sir Gaerfyrddin.
“Bydd y tafarnau i gyd yn cael eu hadolygu ymlaen llaw yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd a'u parodrwydd i fod yn rhannau rhagweithiol o'r hyn sydd ar gael i dwristiaeth yn eu hardal.  Bydd yr ymgyrch yn hysbysebu tafarnau gorau'r sir er mwyn dangos i ymwelwyr a phreswylwyr yn union beth sydd ganddynt i'w gynnig."
Dywedodd George Rashbrook, landlord y Black Lion yn Abergorlech: “Mae gan dafarnau'r Sir gymaint o amrywiaeth a chymeriad yn seiliedig ar eu lleoliad, hanes ac atyniadau lleol.
“Mae'r ymgyrch hon yn ffordd arbennig o ddangos hyn ac mae'n wych cael cefnogaeth gan y Cyngor Sir er mwyn helpu i gyflwyno cwsmeriaid newydd a datblygu'r busnes ymhellach.”
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr ymgyrch hon, cysylltwch â Huw Parsons drwy e-bostio marchnata@sirgar.gov.ukFollow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 21/5/2012