English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Oedi cyn Ailagor y Bont Biano sydd wedi'i Hailadeiladu 

IN TUNE: Piano Bridge constructions works are completed but the road will remain closed into to allow services work to be compleBydd gwaith Network Rail i adnewyddu'r Bont Biano yn Heol Trostre Isaf, Llanelli, yn cael ei estyn tan fis Mai.
Rhagwelwyd y byddai'r ffordd brysur sy'n gwasanaethu ffordd arfordirol Llanelli o Barc Trostre – ac sydd wedi bod ynghau er mis Ionawr – yn cael ei hailagor erbyn diwedd mis Ebrill. 
Mae'r tywydd gwael a phroblemau annisgwyl yn sgil adnewyddu'r pipelli carthion a'r pipelli dŵr wedi peri oedi o fis.
Mae'r bont ddwbl yn croesi'r brif reilffordd o Lundain i Abergwaun ac argloddiau cilffyrdd nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Dan amodau eu cytundeb trwyddedu, mae rheidrwydd ar y contractwyr, pryd bynnag y bo modd, i weithio ar yr adegau a fydd yn amharu lleied ag sydd raid ar y gwasanaethau trenau.
Mae'r bont reilffordd a chilffyrdd wedi cael ei dymchwel a'i hailadeiladu ac mae'r gwaith adfer gwasanaethau a chwblhau yn tynnu at ei derfyn.
Mae'n rhaid sicrhau bod yr adeiladwaith yn ddiddos a rhaid gwneud hyn pan fydd y tywydd yn ffafriol sy'n golygu y

Follow us on Facebook

 bydd yn cael ei gwblhau, ac y bydd y ffordd yn ailagor, rywbryd rhwng canol a diwedd mis Mai.

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/4/2012