Sesiwn holi gyda Chyngor Sir Caerfyrddin
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Sesiwn holi gyda Chyngor Sir Caerfyrddin 
19/11/2010 

YSGOLION yn holi'r Cyngor ynghylch amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ciniawau ysgol.

Daeth plant o bedair o ysgolion cynradd y sir, sef Llangynnwr, Brechfa, Tre Ioan, ac Ysgol y Bedol, ynghyd ar Hydref 13 i ofyn cwestiynau am Gyngor Sir Caerfyrddin ac i roi sylw i'r materion a gaiff effaith arnynt.

Cafodd ystod helaeth o bynciau eu trafod gan y plant: cyflwr cyfleusterau chwarae lleol; baw cŵn mewn mannau cyhoeddus; traffig; clybiau brecwast; a chiniawau ysgol.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i'r plant leisio eu pryderon a dysgu rhagor am yr awdurdod a'r rôl sydd gan ei gynghorwyr o ran cynnal y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Wooldridge: “Mae'r adborth i'r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym ni'n hyderus bod y plant wedi dysgu llawer. Fe wnaethom ni ein gorau i ateb holl gwestiynau'r plant ac rydym ni'n credu eu bod nhw i gyd yn gwybod tipyn rhagor am y gwaith mae'r Cyngor yn ei wneud yn Sir Gaerfyrddin."

Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd ag Wythnos Democratiaeth Leol 2010, a gynhaliwyd rhwng Hydref 13 a Hydref 19.  Gobaith y digwyddiad hwn yw helpu i greu 'gwleidyddiaeth newydd' lle gall dinasyddion ymgysylltu mewn modd cadarnhaol â democratiaeth sy'n gyffrous, yn berthnasol ac yn fywiog.

Bydd llawer o'r cynghorwyr yn dilyn hynt y cwestiynau a'r materion a godwyd gan y plant ac mae digwyddiad tebyg yn cael ei drefnu ar gyfer 2011 eisoes.