English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Miloedd yn mewngofnodi i ddilyn canlyniadau'r etholiadau  

Derbyniodd gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin fwy na 12,500 o drawiadau ddydd Gwener wrth i bobl fewngofnodi i ddilyn canlyniadau'r etholiadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Roedd y wefan yn cael ei diweddaru drwy gydol y dydd er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu cadw golwg ar y canlyniadau wrth iddynt ddod i law.

Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf ychydig ar ôl 10.30am ac roedd y gwaith wedi parhau drwy gydol y dydd gyda chanlyniad y ward olaf yn cael ei gyhoeddi tua 2pm.

Cyhoeddwyd canlyniadau etholiadau'r cynghorau tref a chynghorau cymuned yn ddiweddarach gyda'r canlyniadau olaf yn dod i law ychydig cyn 7pm.

Roedd graff bar lliw ar wefan y Cyngor yn fodd i bobl weld ar unwaith sut hwyl roedd y pleidiau gwleidyddol yn ei chael wrth i'r canlyniadau ddod i law.

Hefyd, roedd modd i ymwelwyr â'r wefan weld y canlyniadau fesul ward. Roedd y manylion yn nodi nifer y pleidleisiau dros bob ymgeisydd, y ganran o boblogaeth y ward oedd wedi pleidleisio ac enw'r ymgeiswyr a etholwyd.
Roedd miloedd o drigolion wedi cyrraedd y tudalennau gwe byw drwy gyfrwng tudalennau'r Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter.

Roedd Mrs Wright wedi trydar i ddweud ei bod wedi dilyn y ddolen i gael gweld y canlyniadau. Eglurodd fod cael gwybod pwy oedd wedi cael eu hethol wedi bod yn anodd y gorffennol ond roedd y ddolen gyswllt yn wych a'r canlyniadau ar gael yn hwylus.

Roedd eraill wedi trydar i ddweud eu bod yn hoffi'r tudalennau Etholiadau y wasg yn fawr ac i ddweud da iawn.
Dywedodd Chris Burns, Prif Weithredwr Cynorthwyol: "Dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio gwefan y Cyngor i gyhoeddi'r canlyniadau yn fyw ac rydym ni'n falch iawn fod cynifer o bobl wedi gallu bod yn rhan o'r digwyddiad a mwynhau naws y cyfrif yn ystod y dydd."

Edrychwch ar dudalennau'r etholiadau ar y wefan www.sirgar.gov.uk i weld canlyniadau'r etholiadau. Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/5/2012