English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 26/9/2011
Preswylwyr Trimsaran yn cael eu hannog i waredu eu sbwriel  

Mae preswylwyr yn Nhrimsaran yn cael eu hannog i fynd ati o ddifri i waredu ac ailgylchu unrhyw sbwriel sydd ganddynt yn eu cartrefi.
Ddydd Sadwrn (24 Medi) cynhelir digwyddiad 'Ailgylchu ar daith', sef yr Amnest Gwastraff gynt, ym maes parcio'r ganolfan hamdden rhwng 8am a 10.30am.
Gall preswylwyr fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i gael gwared ag unrhyw eitemau mawr o sbwriel yn rhad ac am ddim.
Gellir mynd â’r rhan fwyaf o wastraff y cartref i’r lleoliad hwn gan gynnwys eitemau gwastraff swmpus megis celfi a nwyddau trydan. Fodd bynnag, ni dderbynnir asbestos, teiars, paent, cemegion gardd, batris, poteli nwy, gwastraff adeiladu na gwastraff masnach. Bydd cymaint o'r gwastraff â phosibl yn cael ei ailgylchu.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda'r nod o annog preswylwyr i waredu gwastraff a allai gael ei waredu’n anghyfreithlon fel arall ac i ailgylchu a/neu ailddefnyddio cymaint o'u sbwriel â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rwy'n gobeithio y bydd preswylwyr yn manteisio ar y cyfle hwn i waredu unrhyw wastraff cartref a allai fod ganddynt.
“Mae gwastraff swmpus megis celfi, pren a chardbord sy'n cael ei adael o gwmpas y cartref yn gallu bod yn berygl tân ac mae hefyd yn gallu cael ei waredu'n anghyfreithlon sy'n niwsans ac yn annymunol, yn ogystal â bod yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn beryglus o bosib.
“Yn ogystal, mae modd ailddefnyddio neu ailgylchu llawer o'n gwastraff, o garpedi a matresi i eitemau trydan bach a chelfi. Bydd yr holl wastraff sy'n cael ei waredu yn y digwyddiad hwn yn cael ei ddidoli a bydd cymaint ohono â phosibl yn cael ei ailgylchu,"
Os bydd gan breswylwyr unrhyw eitemau mawr o wastraff i'w gwaredu yn ystod y flwyddyn gallant ddefnyddio un o bum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y sir neu wneud cais i'r Cyngor gasglu gwastraff swmpus am dâl bach sef £12 am hyd at dair eitem. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Galw Sir Gâr ar 01267 234567 neu ewch i  www.sirgar.gov.uk