Y Gronfa Datblygu Ieuenctid - Grantiau i Grwpiau Ieuenctid
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Y Gronfa Datblygu Ieuenctid - Grantiau i Grwpiau Ieuenctid 
13/10/2010 

Mae gan Banel Grantiau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin £10,000 ar gael i fudiadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc 11 - 25 oed ledled Sir Gaerfyrddin.  Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw Hydref 25.  Gellir cael pecynnau ymgeisio drwy gysylltu â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) a hynny drwy ffonio 01267 245555, drwy anfon neges e-bost at fflur@cavs.org.uk neu drwy fynd i'r wefan sef www.cavs.org.uk.

Mae Panel Grantiau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys pobl ifanc o bob cwr o'r sir, wedi cael £10,000 o Grant Refeniw Gwasanaeth Ieuenctid Llywodraeth Cynulliad Cymru (a ddyrannwyd i Wasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin) fel y gellir rhoi arian i fudiadau ddatblygu syniadau sy'n rhoi cyfleoedd newydd i bobl ifanc.  Mae pobl ifanc o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi eu henwebu i fod yn aelodau o'r Panel Grantiau, a byddant yn cydweithio â CAVS a Thîm Cyfranogiad Sir Gaerfyrddin er mwyn pennu'r meini prawf, asesu'r ceisiadau, a phenderfynu pa brosiectau fydd yn cael cyllid.

Bydd cyfanswm o £10,000 ar gael eleni, a bydd uchafswm o £1,000 ar gael i grwpiau mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a mudiadau ieuenctid.  Gall y prosiectau fod yn ddigwyddiadau unwaith yn unig neu'n weithgareddau dros gyfnod, ond mae'n rhaid iddynt fod o fudd i'r gymuned leol neu i bobl ifanc mewn rhyw ffordd.

Mae'n rhaid i brosiectau sy'n gobeithio cael grant refeniw gydymffurfio ag o leiaf un o flaenoriaethau Panel Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 2010 :
 Gwella iechyd a lles
 Hybu cyfleoedd i bobl ifanc gyfranogi
 Darparu cyfleoedd gwirfoddoli newydd i bobl ifanc
 Gwella'r gwasanaethau i bobl ifanc
 Estyn cymorth i bobl ifanc sydd ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu
 Cymell dinasyddiaeth gymunedol

Dywedodd Sarah Powell, Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid Sir Gaerfyrddin: “Mae aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn barod i ymgymryd â'u rôl ar y panel ar ôl dilyn cwrs hyfforddiant dan arweiniad cyfoedion, pryd y buont yn rhoi sylw i sgiliau gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.  Mae'n nhw'n edrych ymlaen at gael y ceisiadau, a'u nod yw sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael eu cloriannu'n deg, a bod pobl ifanc ar eu hennill yn sgil y prosiectau a gynhelir yn y dyfodol."

Dylai’r prosiectau sy'n bwriadu cyflwyno ceisiadau am grantiau refeniw sicrhau eu bod yn gwneud hynny erbyn Hydref 25.  I gael pecynnau ymgeisio cysylltwch â Fflur Hughes drwy ffonio 01267 245555, drwy anfon neges e-bost at fflur@cavs.org.uk neu drwy fynd i'r wefan sef www.cavs.org.uk.