English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Y Gwasanaeth Parcio a Theithio'n cario mwy o deithwyr 
27/09/2010 

 

Mae bws gwennol parcio a theithio canol tref Caerfyrddin wedi bod mor boblogaidd ag erioed dros chwe wythnos gwyliau'r haf yn ddiweddar.

Bu'r gwasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cario 21,694 o deithwyr rhwng Nant-y-ci a chanol y dref dros gyfnod gwyliau'r haf 2010.

Roedd y nifer hwnnw'n 1,575 yn fwy na'r un cyfnod y llynedd gyda chynnydd wedi ei gofnodi ar gyfer pob wythnos heblaw am yr wythnos olaf a oedd yn is o drwch blewyn yn unig, ond y gred yw mai'r tywydd oedd ar fai am hynny.

Mae'r gwasanaeth  Parcio a Theithio yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn wedi cychwyn ers Rhagfyr 2007.  Mae wedi bod yn llwyddiannus ers iddo gael ei gyflwyno er mwyn helpu i oresgyn y problemau parcio yn sgil colli hen safle'r mart wrth iddo gael ei ddatblygu yn safle siopa newydd Rhodfa'r Santes Catrin.

Serch hynny, mae'r gwasanaeth parcio a theithio mor boblogaidd ag erioed gyda nifer y teithwyr yn cynyddu er gwaethaf cyflwyno maes parcio newydd â 950 o lefydd parcio fel rhan o'r datblygiad newydd £74 miliwn.

Yn ystod yr amserau mwyaf prysur, mae'r bysiau wedi bod yn cario hyd at 173 o bobl bob awr i ganol y dref.  Disgrifiwyd y gwasanaeth fel un "hollol anhygoel" gan Alwyn Evans, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Teithio'r Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Jones, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Trafnidiaeth: "Mae'r gwasanaeth wedi profi'n llwyddiant ysgubol i siopwyr o'r wlad, sy'n gallu parcio a dibynnu ar wasanaeth bws cyson, sy'n casglu ac yn gollwng pobl yng nghanol y dref.

"Mae'n gwneud parcio yn llai trafferthus ac yn helpu i leihau tagfeydd yng nghanol y dref."

Yn sgil poblogrwydd y gwasanaeth parcio a theithio, mae'r cyngor yn ystyried parhau â'r gwasanaeth fel rhan o wasanaeth talu'n rhannol.