Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/8/2011
Y Porth Ymgysylltu
Rhoddwyd caniatâd i Menter Cwm Gwendraeth weithio gyda phobl sy’n anactif yn economaidd o fewn Sir Gaerfyrddin.
Datblygwyd y Porth Ymgysylltu fel menter ar y cyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Dywedodd David Saywell, Cydlynydd Dolen Iechyd: “Mae gan lawer o unigolion amryfal rwystrau sy’n rhaid iddynt eu goresgyn cyn eu bod yn barod i ddechrau gwaith. Y nod yw paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith trwy ddefnyddio ystod o weithgareddau sy’n adeiladu’r hyder a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn dechrau’r broses o ddechrau neu ddychwelyd i’r gwaith.
“Bydd hyn nid yn unig o les i’r unigolion sy’n cymryd rhan ond fe fydd hefyd yn helpu i ddod â chymunedau mwyaf difreintiedig Sir Gaerfyrddin ynghyd a’u datblygu. Rwy’n bwriadu gweithio gyda phobl nad ydynt yn derbyn digon o gynrychiolaeth yn y byd gwaith megis hen bobl, menywod a phobl sydd â chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, a hefyd sicrhau bod pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn buddio o’r gwasanaeth.”
Bydd Menter Cwm Gwendraeth yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y sir sy’n helpu pobl ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen. Mae pecyn llawn o gymorth ar gael ar gyfer unigolion sydd angen help – sgiliau cyfathrebu, gweithio fel tîm, datrys problemau, sgiliau galwedigaethol, dysgu gydol oes, addysg bellach; a digon o anogaeth.
Bydd y bobl a fydd yn elwa o’r cynllun yn cynnwys y rhai sy’n anactif yn economaidd - pobl fel gofalwyr a’r rheiny nad ydynt yn gweithio nac yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith ond sy’n hawlio Budd-dal Analluogrwydd; pobl ddi-waith; pobl ifanc rhwng 16-25 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; menywod, pobl sy’n perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol, pobl sy’n 50 oed neu’n hŷn, rhieni sengl a phobl sydd â chyflwr iechyd ac/neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio.
Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn buddio o’r cynllun a gobeithir y byddant yn symud ymlaen at gyflogaeth neu gyflogaeth wedi ei chynnal, dysgu pellach neu wirfoddoli.
Gall unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd am gymryd rhan gysylltu â Menter Cwm Gwendraeth trwy ffonio 01269 871600.