

Dyddiad: Dydd Mercher, 22ain Chwefror 2012, 10.30am – 3.30pm
Y Man Cynnal: Canolfan Delme Thomas, Parc y Scarlets, Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Yn dilyn llwyddiant y Ffair Gyllid Ranbarthol yn 2010, mae'n bleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS), gyhoeddi Ffair Gyllid Sir Gaerfyrddin 2012.
Bydd y Ffair yn canolbwyntio ar helpu i greu cymunedau llawn bwrlwm ac annog y symudiad tuag at gynaliadwyedd. Bydd yn fodd i grwpiau cymunedol, elusennau lleol a mudiadau gwirfoddol ddeall y cyllid a'r arbenigedd busnes sydd ar gael i'w helpu i ddatblygu eu syniadau. Bydd y rhai a ddaw i'r ffair yn gweld amrywiaeth o gyllidwyr ac ymgynghorwyr o'r sector a bydd gweithdai yn seiliedig ar thema cynaliadwyedd yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd.
Mae Ffair Gyllid Sir Gaerfyrddin yn gyfle gwych i bob sefydliad yn Sir Gaerfyrddin gael gwybod am y cymorth a'r cyllid sydd ar gael ledled y sir gan gynnwys gweithdai ynghylch “Sefydlu Strwythurau Sefydliadol Cynaliadwy” a “Cyfleusterau Hamdden a Reolir gan y Gymuned - Sesiwn Cyfarwyddo ynghylch Trosglwyddo Asedau”.
Lawrlwythwch y Ffair Gyllid Sir Gaerfyrddin daflen
A fyddech cystal â chofrestru drwy'r wefan www.sirgar.gov.uk/regenerationevent