Croeso i Gyngor Sir Gâr
Mae'r Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau fel Addysg, Ailgylchu a Gofal Cymdeithasol. Gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion ar gyfer unrhyw apwyntiadau gyda chwsmeriaid. Rhowch wybod i ni wrth drefnu'r apwyntiad.
Gallwch gysylltu â ni drwy:
- Text Direct - Os ydych yn defnyddio ffôn tecst, gallwch gysylltu ag unrhyw rif ffôn yn y Cyngor drwy roi 18001 cyn y rhif.
- Neges destun - gallwch ddanfon neges destun drwy 0789 2345678
- Gallwch dderbyn negeseuon gwybodaeth hefyd, drwy ddanfon neges ymuno i 0789 2345678.
- E-bost - galw@sirgar.gov.uk
- Facebook- www.facebook.com/carmarthenshirecc
Gall yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai gynnig adnoddau arbenigol i chi ar gyfer eich cartref. Maent hefyd yn cynnig cyngor ar y budd-daliadau a allai fod ar gael i chi. Cysylltwch â Llinell Ofal+ ar (18001) 01267 224466 .
Gallwn roi gwybodaeth i chi am grwpiau yn yr ardal i bobl Byddar, Trwm eu Clyw neu Fyddar a Dall.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gwasanaethau eraill y dymunwch ar ffurf Iaith Arwyddion ar ein gwefan.