MOBI
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
MOBI 

mobilogo

MOBI newydd ar y ffordd

Os ydych yn chwilio am rywbeth i'w wneud neu wedi hen ddiflasu yn eich ardal leol, beth am roi cynnig ar ddod i MOBI?

Clwb teithiol i ieuenctid yw MOBI sy'n dod â'r hwyl yn syth i lle'r ydych chi ac sy'n cynnig lle gwych i bobl ifanc ymlacio mewn man cynnes a diogel. Yn y clwb mae gêmau consol, chwaraeydd DVD sydd â sgrin deledu fain 50 modfedd, gêmau bwrdd, ac amrywiol offer chwaraeon.

Os byddwch yn sychedig neu eisiau bwyd yn fawr ar ôl ichi orffen â hynny i gyd, gallwch brynu diodydd twym, losin neu hyn yn oed baratoi tost-frechdanau yn y MOBI!

Mae tîm y MOBI hefyd yn trefnu teithiau i'r atyniadau lleol gorau. Ar ôl ichi ddechrau dod i MOBI yn rheolaidd, gallan nhw ddechrau meddwl am deithiau rheolaidd gyda'r hwyr a allai gynnwys unrhyw beth o weithdai troellwr (DJ), prosiectau animeiddio a sesiynau arlunio i feicio mynydd, arfordira, neu deithiau i Winter Wonderland, Abertawe, ym mis Rhagfyr.

Mae'n debyg mai'r unig beth y mae angen inni roi gwybod i chi nawr yw ble y byddan nhw a phryd y byddan nhw yno. Edrychwch ar yr amserlen isod i weld a fydd MOBI yn dod i'ch ardal chi yn fuan:

When? Where? What time?*
Ar ddydd Llun Whitland (behind the Town Hall) 16:30pm - 18:30pm
Sanclêr (ym maes parcio'r feddygfa) 18:30pm - 20:00pm
Ar ddydd Mawrth Llanmilo (ger yr eglwys) 17:00pm-19:00pm

Wednesdays

Castellnewydd Emlyn (yn y maes parcio ger y caeau chwarae/y mart) 17:00pm - 18:00pm

 

Dre-fach Felindre (ger y caeau chwarae) 18:00pm - 19:00pm
Ar ddydd Iau

Llanybydder (ger tafarn y Black Lion)

17:00pm - 19:00pm

* Bydd MOBI yn ceisio ei orau i barcio yn y mannau a restrir uchod ar yr adegau a nodwyd ond gall hyn newid yn dibynnu ar y traffig a'r lle parcio sydd ar gael.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/2/2012

 
Manylion Cysyllt
 

paulwilliams
Paul Williams
01267 224956
PaulWilliams@sirgar.gov.uk

barrieashton
Barrie Ashton
01267 224956
BAshton@sirgar.gov.uk

huwleonard
Huw Leonard
01267 224956
HLeonard@sirgar.gov.uk

cathwilson
Cath Wilson
01267 224956
CMWilson@sirgar.gov.uk