
MOBI newydd ar y ffordd
Os ydych yn chwilio am rywbeth i'w wneud neu wedi hen ddiflasu yn eich ardal leol, beth am roi cynnig ar ddod i MOBI?
Clwb teithiol i ieuenctid yw MOBI sy'n dod â'r hwyl yn syth i lle'r ydych chi ac sy'n cynnig lle gwych i bobl ifanc ymlacio mewn man cynnes a diogel. Yn y clwb mae gêmau consol, chwaraeydd DVD sydd â sgrin deledu fain 50 modfedd, gêmau bwrdd, ac amrywiol offer chwaraeon.
Os byddwch yn sychedig neu eisiau bwyd yn fawr ar ôl ichi orffen â hynny i gyd, gallwch brynu diodydd twym, losin neu hyn yn oed baratoi tost-frechdanau yn y MOBI!
Mae tîm y MOBI hefyd yn trefnu teithiau i'r atyniadau lleol gorau. Ar ôl ichi ddechrau dod i MOBI yn rheolaidd, gallan nhw ddechrau meddwl am deithiau rheolaidd gyda'r hwyr a allai gynnwys unrhyw beth o weithdai troellwr (DJ), prosiectau animeiddio a sesiynau arlunio i feicio mynydd, arfordira, neu deithiau i Winter Wonderland, Abertawe, ym mis Rhagfyr.
Mae'n debyg mai'r unig beth y mae angen inni roi gwybod i chi nawr yw ble y byddan nhw a phryd y byddan nhw yno. Edrychwch ar yr amserlen isod i weld a fydd MOBI yn dod i'ch ardal chi yn fuan:
| Ar ddydd Llun |
Whitland (behind the Town Hall) |
16:30pm - 18:30pm |
|
Sanclêr (ym maes parcio'r feddygfa) |
18:30pm - 20:00pm |
| Ar ddydd Mawrth |
Llanmilo (ger yr eglwys) |
17:00pm-19:00pm |
|
Wednesdays |
Castellnewydd Emlyn (yn y maes parcio ger y caeau chwarae/y mart) |
17:00pm - 18:00pm |
|
|
Dre-fach Felindre (ger y caeau chwarae) |
18:00pm - 19:00pm |
| Ar ddydd Iau |
Llanybydder (ger tafarn y Black Lion) |
17:00pm - 19:00pm |
* Bydd MOBI yn ceisio ei orau i barcio yn y mannau a restrir uchod ar yr adegau a nodwyd ond gall hyn newid yn dibynnu ar y traffig a'r lle parcio sydd ar gael.