
Ydych chi wedi bod i gig a hanner yn ddiweddar? Hoffech chi roi gwybod i bobl am albwm newydd a gwahanol rydych wedi bod yn gwrando arno? Efallai eich bod yn meddwl y dylai eich ffrindiau roi'r gorau i brynu iPhones Apple a dechrau dwlu ar Blackberries?
Wel…dyma eich cyfle chi!
Mae www.ieuenctidsirgar.co.uk yn wefan a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Gallwch greu eich proffil eich hunan ac ysgrifennu eich erthyglau eich hunan neu roi gwybod i bobl am ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn fuan. Ar ôl ichi orffen ysgrifennu gallwch drosglwyddo ffotograffau, fideos neu ychydig o gerddoriaeth i'r wefan er mwyn rhoi mwy o fywyd i'ch cyfraniad.
Gorau oll po fwyaf creadigol y byddwch: beth am greu fideos, tynnu lluniau ac efallai cael eich cynnwys ar wefan genedlaethol CLIC. Gallwch ysgrifennu am unrhyw beth, wir ichi!
Hefyd, mae yma lwyth o wybodaeth am bethau y gallech fod yn meddwl amdanynt, fel *ydych chi’n barod am hyn*:
Er mwyn i hyn i gyd ddigwydd yr unig beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru. Felly, beth amdani? Ewch i www.ieuenctidsirgar.co.uk nawr!
O, gyda llaw, rydym ni ar Twitter: http://twitter.com/carmarthenyouth
...ac ar Facebook: http://facebook.com/carmarthensshireyouth
...a hefyd ar YouTube: http://www.youtube.com/carmarthenshireyouth