Gwybodaeth I Weithwyr
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwybodaeth I Weithwyr 

Hwyluswyr Cyfathrebu

Mae gan bob Adran Hwylusydd Cyfathrebu dynodedig, a all fod yn berson cyswllt os methwch â chael ateb i"ch ymholiad o unrhyw un o"r ffynonellau a nodir uchod. Maent yn ddolen gyswllt rhwng eich adran chi a"r tîm trafod telerau. Dyma eu manylion:

Gareth Miller -Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai Est 2935

Jackie Edwards - Y Gwasanaethau Technegol Est 5142

Nicola Hoare - Addysg a Phlant Est 6504

Anna Jones - Adran y Prif Weithredwr Est 6106

Avril Williams - Adfywio a Hamdden Est 3212

Tracey Thomas - Adnoddau Est 6202

Debbie Williams - Adran y Prif Weithredwr Ext 4037

Iechyd Galwedigaethol
Mae Iechyd Galwedigaethol yn cynnig gwasanaeth sgrinio iechyd a ffordd o fyw, Rhaglen Rheoli Straen, Therapi Ymddygiad Gwybyddol a chymorth arall. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn drwy gael eich cyfeirio gan eich rheolwr llinell.

Dysgu a Datblygu
Gall Dysgu a Datblygu gynnig cyngor ynghylch amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu. Gellir gweld y Cynllun Dysgu a Datblygu presennol drwy'r ddolen ganlynol
www.learningpool.com/carmarthenshire/file.php/1/L_D_Plan_Document_-_September_2010.pdf. Dolen i'r rhyngrwyd yw hon ac felly gellir ei defnyddio yn y gwaith ac o gyfrifiadur gartref. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gofynnwch i'ch rheolwr am gopi.

Cronfa Bensiwn Dyfed
I gael rhagor o fanylion am sut y gall y newidiadau effeithio ar eich pensiwn ewch i www.dyfedpensionfund.org.uk a chliciwch ar "Aelodau" ac yna ar "Ffeithlen Gwerthuso Swyddi ". Fel arall, gallwch siarad â"ch rheolwr llinell neu ffonio'r adain pensiynau ar 01267 224043 i gael cyfarwyddyd.

Ffynonellau Allanol o Gymorth Y Gwasanaeth Cyngor am Arian
http://www.moneyadviceservice.org.uk
Mae cyngor ariannol ar gael drwy'r Gwasanaeth Cyngor am Arian a gyllidir gan y Llywodraeth. Bydd y gwasanaeth yn ceisio darparu cyngor di-dâl, clir a diduedd. Lleolir y Gwasanaeth Cyngor am Arian yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a gallwch gysylltu â'r gwasanaeth drwy ffonio Suzanne Gainard (01267 234488) neu drwy anfon e-bost at suzanne@carmarthencab.org.uk

Yn ogystal, gellir lawrlwytho llyfrynnau o'r wefan ynghylch amrywiaeth o bynciau yn ymwneud ag arian.

Gyrfa Cymru
http://www.gyrfacymru.com/
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor proffesiynol a di-dâl.

Maent yn cydweithio'n agos â'r Ganolfan Byd Gwaith ac asiantaethau eraill i roi cyngor i weithwyr am y gwasanaethau sydd ar gael a sut i'w defnyddio. Maent yn rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol a'r posibilrwydd o ailhyfforddi. Gallant roi cyngor ynghylch CVs, llenwi ffurflenni cais, llythyrau cais a ffynonellau posibl o gyllid.

DirectGov
http://www.direct.gov.uk
Mae'r adran cyflogaeth ar wefan Directgov yn rhoi gwybodaeth am ddysgu a gyrfaoedd. Gall y wefan hon roi gwybodaeth am amrywiaeth o gymorth sydd ar gael i weithwyr, o chwilio am swydd i delerau ac amodau cyflogaeth. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ymgynghorydd budd-daliadau ar-lein i gael gwybod pa fudd-daliadau y mae gennych chi a'ch teulu hawl i'w derbyn o bosib.

Hyfforddiant
Mae gwybodaeth am gyrsiau, cymwysterau a chyngor ar gael ar y wefan: www.learndirect.co.uk Mae'r wefan Prentisiaethau yn rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i ddysgu wrth weithio - http://www.apprenticeships.org.uk/

Mae gwefan Business link sef www.businesslink.gov.uk yn rhoi gwybodaeth am gymorth a hyfforddiant i bobl sydd â diddordeb mewn cychwyn eu busnes eu hunain.

Pensiynau
http://www.pensionsadvisoryservice.org.uk/
Os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Mae'n gorff annibynnol a di-elw sy'n darparu gwybodaeth ac arweiniad yn rhad ac am ddim. Hefyd, gall y gwasanaeth hwn roi cymorth os bydd gennych broblem yn ymwneud â'ch darparwr pensiwn galwedigaethol neu breifat.

Llinell Gymorth Straen y Wasgfa Gredyd - GIG
Gall gweithwyr sy'n poeni am eu sefyllfa ariannol gysylltu â'r llinell gymorth straen drwy ffonio 0300 123 2000.

Canolfan Cyngor ar Bopeth
http://www.cyngorarbopeth.org.uk
Mae'r wefan hon yn helpu unigolion i ddatrys problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill, gan gynnwys colli swydd, drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim.

Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu
http://www.acas.gov.uk
Gall Acas roi cyngor cyfrinachol a diduedd ynghylch amrywiaeth o faterion cysylltiadau â gweithwyr.

Gwefannau eraill a allai fod yn ddefnyddiol
http://www.worksmart.org.uk
Mae'r wefan hon yn egluro eich hawliau ac yn helpu gweithwyr heddiw i fanteisio cymaint â phosibl ar fyd gwaith.

http://www.unbiased.co.uk
Mae'r wefan hon yn ddefnyddiol ar gyfer cael hyd i gyngor lleol a phroffesiynol, gan gynnwys ynghylch ymgynghorwyr ariannol annibynnol, morgeisi, cyfrifyddu a chyfreithwyr.

http://www.prospects.ac.uk/links/Pplanner  
Mae'r wefan hon yn becyn archwilio swyddi sy'n ceisio eich helpu i nodi eich sgiliau, eich cymhellion a'ch diddordebau ac wedyn gweld y swyddi sydd fwyaf perthnasol i chi. Mae Prospects Planner wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghori'n agos â gwasanaethau gyrfaoedd prifysgolion sy'n argymell Prospects Planner gan ei fod yn wasanaeth gwerthfawr ar gyfer archwilio a chynllunio eich swydd a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Undebau Llafur

Unite

Carl Lucas – Swyddog Rhanbarthol
Rhif ffôn - 01792470434
Ffôn Symudol - 07951246812
E-bost: carl.lucas@unitetheunion.com  
North Hill,
7 St James Crescent,
Abertawe
SA1 6DZ

GMB
Althea Phillips – Swyddog Rhanbarthol
Ffôn Symudol - 07980 753125
Swyddfa GMB - 01792 467803
Alexandra House,
Y Llawr Gwaelod,
1 Alexandra Road,
Abertawe.
SA1 5ED

UNSAIN
Jeff Baker – Swyddog Rhanbarthol
Rhif ffôn- 0845 355 0845
Ystafell A,
The Courtyard,
Stryd y Gwynt,
Abertawe.
SA1 1DP

N.U.T. CYMRU
June Jenkins
Tŷ Sinnott 18 Neptune Court
Vanguard Way
Caerdydd
CF24 5PJ
RHIF FFÔN: 029 2049 1818
FFACS: 029 2049 2491

UCAC
Elen Davies
Pen Roc,
Rhodfa'r Môr,
Aberystwyth,
Ceredigion SY23 2AZ
FFÔN: 01970-639950
FFACS: 01970-626765
E-bost: ucac@athrawon.com

NASUWT
Charles Meredydd
Greenwood Close,
Parc Busnes Porth Caerdydd,
Caerdydd CF23 8RD
FFÔN: 029 2054 6080
FFACS: 029 2054 6089
E-bost: rc-walescymru@mail.nasuwt.org.uk

ASCL
Mr Dorian Williams
130 Regent Road,
Caerlŷr / Leicester LE1 7PG
FFÔN: 0116 2991122
FFACS: 0116 2991123
E-bost: info@ascl.org.uk

ATL
Frances White
7 Northumberland Street
Llundain / London
FFÔN: 020 7930 6441
FFACS: 020 7930 1359
E-bost: info@atl.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon
Julian Jones
1 Heath Square,
Boltro Road,
Haywards Heath,
West Sussex RH16 1BL
FFÔN: 01444 472472
E-bost: info@naht.org.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/12/2012