Pensiynau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Pensiynau 

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Cafodd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol newydd ei gyflwyno ar 1af Ebrill 2008. Mae'r cynllun yn parhau i fod yn gynllun cyflog terfynol a 65 oed yw'r dyddiad ymddeol arferol o hyd. Rhai o fanteision eraill y cynllun yw:-

• Cyfradd gronni sef 1/60fed o aelodaeth o’r cynllun
• Taliad Marwolaeth mewn Gwasanaeth – tair gwaith y cyflog pensiynadwy
• Cynllun ymddeol ar sail afiechyd aml-haen.

Mae'r cyfraddau cyfrannu ar gyfer yr holl aelodau yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag amser llawn, a allai gynnwys taliadau ychwanegol, e.e. lwfans sifftiau. 
 
Y Bandiau Pensiwn o 1af Ebrill 2010 - 31ain Mawrth 2011

 Band Ystod Cyfradd Gyfrannu
1 Llai na £12,600 5.5%
2 £12,601 - £14,700 5.8%
3 £14,701 - £18,900 5.9%
4 £18,901 - £31,500 6.5%
5 £31,501 - £42,000 6.8%
6 £42,000 - £78,700 7.2%
7 £78,700 a mwy 7.5%

Y Bandiau Pensiwn o 1af  Ebrill 2011 - 31ain  Mawrth 2012

Band Ystod Cyfradd Gyfrannu
1 Llai na £12,900 5.5%
2 £12,901 - £15,100 5.8%
3 £15,101 - £19,400 5.9%
4 £19,401 - £32,400 6.5%
5 £32,401 - £43,300 6.8%
6 £43,301 - £81,100 7.2%
7 £81,100 a mwy 7.5%

Nodwch fod y bandiau hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn a hefyd, wrth i'ch cyflog gynyddu, byddwch yn symud yn awtomatig i’r gyfradd gyfrannu nesaf.

Drwy weithredu’r system cyflogau a graddfeydd newydd, gallai unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn eich cyflog arwain at newid yn eich cyfradd gyfrannu. Darperir gwybodaeth bellach gan yr adain Adnoddau Dynol. Fodd bynnag, fel canllaw, dylid ystyried y wybodaeth ganlynol wrth asesu eich cyfradd gyfrannu:}

• Os ydych yn gweithio'n rhan amser, bydd eich cyfradd gyfrannu'n seiliedig ar gyflog cyfwerth ag amser llawn.
• Os ydych yn gweithio yn ystod y tymor ysgol bydd eich cyflog pensiynadwy yn seiliedig ar gyflog cyfwerth â swydd amser llawn am y tymor ac wedi'i seilio ar yr union wythnosau tâl.
• Os oes gennych fwy nag un swydd bydd cyfradd gyfrannu ar wahân yn cael ei phennu ar gyfer pob swydd unigol.
• Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod gennych gontract cyflogaeth 3 mis neu fwy, fodd bynnag, os bydd eich contract yn cael ei ymestyn y tu hwnt i 3 mis, byddwch yn gallu gwneud cais am aelodaeth a bydd yn cael ei hôl-ddyddio.

Nodwch y gallai unrhyw newidiadau i’ch cyflog cyfwerth ag amser llawn gael effaith ar eich cyflog terfynol. Os bydd eich cyflog yn cynyddu, nid effeithir yn andwyol ar eich cyflog terfynol ond os bydd eich cyflog yn lleihau, mae nifer o ystyriaethau.

Os ydych yn agos at ymddeol neu’n gadael yr Awdurdod, gall eich cyflog terfynol fod yn seiliedig ar y flwyddyn orau o’r tair blynedd olaf, neu gallwch ddewis seilio eich buddion ar gyfartaledd cyflog unrhyw flynyddoedd olynol o fewn y 10 mlynedd olaf o gyflogaeth yn seiliedig ar 31ain Mawrth.  Fodd bynnag, bydd angen ystyried a yw pobl yn rhannu eu cofnodion pensiwn ac yn cymryd eu gwasanaeth pensiwn presennol, yn seiliedig ar y cyflog uwch, fel pensiwn gohiriedig.

Gellir cael manylion pellach yn nhaflen ffeithiau Cronfeydd Pensiwn Cymru Gyfan Rhif 3: ‘Newid eich Trefniadau Gwaith’.  Gellir ei chael, ynghyd â manylion eraill, ar wefan Cynllun Pensiwn Dyfed:
http://www.dyfedpensionfund.org.uk/Cymraeg/Pages/home.aspx
 
Dyddiad diweddaru Mawrth 2011

Rhoi nod tudalen:
Beth yw hyn?

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/3/2011