Inswleiddio'r atig a'r waliau ceudod am ddim i bob preswylydd*
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio â 'Domestic and General Insulation Ltd' i gynnig inswleiddio'r atig a'r waliau ceudod am ddim i'r holl breswylwyr*. Gyda'n gilydd rydym yn cynnig ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni eraill a allai eich helpu i leihau eich biliau gwresogi ac i wneud eich cartref yn gynhesach:
Inswleiddio'r waliau allanol
Inswleiddio'r waliau mewnol
Paneli haul ffotofoltäig (i gynhyrchu trydan)
Paneli haul thermol (i gynhesu'r dŵr)
Systemau gwresogi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon
'Domestic and General Insulation Ltd' yw contractwyr cymeradwy'r cynllun hwn ac mae'r cwmni wedi'i achredu'n llawn gan yr holl gyrff perthnasol i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Bydd syrfëwr sy'n gwbl gymwysedig ym maes effeithlonrwydd ynni yn ymweld â'ch eiddo i'ch cynghori ar y mesurau a fyddai'n fuddiol ichi ac i roi gwybod ichi am y grantiau y mae gennych hawl iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ddilysu'r cynllun hwn, ffoniwch Wasanaethau Sir Gaerfyrddin ynghylch Ynni yn y Cartref:
01267 234567.
Dyfais Monitro Ynni – Cynllun Benthyca
A wyddech chi fod modd ichi fenthyca dyfais monitro ynni yn yr un ffordd ag y byddech yn benthyca llyfr, cryno-ddisg neu dvd? O'r 18fed o Fai 2010 ymlaen bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn gallu benthyca dyfais monitro ynni am ddim o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.
Mynd i'r Afael â'r Wasgfa Gredyd!
Prydain yw'r gwaethaf yn Ewrop am wastraffu ynni. Mae gan Brydain arferion gwael megis gadael cyfarpar ymlaen ond yn segur ('standby') a fydd wedi costio £11 biliwn i breswylwyr erbyn 2010.
Ar gyfartaledd, mae pob cartref yn y Deyrnas Unedig yn gwario oddeutu £1,300 y flwyddyn ar ynni, ac mae hynny'n debygol o godi eto fyth wrth i brisiau ynni godi. Gallai gadael PlayStation 3 ymlaen ond heb ei ddefnyddio (“idle mode”) ychwanegu £164 y flwyddyn at eich bil trydan!
Gellir defnyddio dyfais monitro ynni yn y cartref i helpu i arbed ynni ac arbed arian ar eich biliau.
Bydd yr uned arddangos (gweler y llun isod) yn dangos ichi faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio a faint mae'n ei gostio.
Sut gallaf gael gafael ar Ddyfais Monitro Ynni?
Gallwch fenthyca dyfais monitro ynni am ddim o un o'r 14 o lyfrgelloedd yn Sir Gaerfyrddin, neu o un o'r 5 llyfrgell symudol.
• Rhydaman
• Brynaman
• Porth Tywyn
• Caerfyrddin
• Cross Hands
• Cydweli
• Llandeilo
• Llanelli
• Llangennech
• Llwynhendy
• Castellnewydd Emlyn
• Sanclêr
• Trimsaran
• Hendy-gwyn
• Llyfrgell symudol
Gallwch fenthyca'r uned am bythefnos. Daw llyfryn cyfarwyddiadau gyda'r ddyfais, ac mae’n hawdd i'w gosod ac yn gymorth i leihau'r ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.