Pethau sydd angen ichi wybod...os hoffech chi gael cymorth o ran mater tai.
Does dim digon o dai cyngor a thai cymdeithasau tai ar gael i bawb.
Yn sgil prinder tai yn Sir Gaerfyrddin, ni allwn gynnig tŷ i bawb sydd â phroblem o ran cael tŷ ond gallwn ni weithio gyda chi i weld a oes modd inni ddod o hyd i ateb arall.
A oes gwir angen i mi symud? A oes unrhyw ddewisiadau eraill ar gael i mi?
Mae nifer o ddewisiadau eraill a allai fod yn addas ichi, megis:
- Tai Fforddiadwy sydd ar werth
- Rhentu yn y Sector Preifat
- Achub Morgeisi
- Gwneud cais am grant addasiadau neu grant cyfleusterau i bobl anabl
- Tai fforddiadwy i'w rhentu gyda'r dewis i brynu mewn 5 mlynedd
- Cyfnewid tŷ ag un o denantiaid eraill y cyngor neu denant cymdeithas dai
- Cyfryngu
- Tai â Chymorth
- Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i arolygu eiddo er mwyn gwirio'i gyflwr
- Cyngor ynghylch Budd-daliadau Tai
- Cynllun Bond
Sut gallaf i ddarganfod pa ddewis sydd orau i mi?
Gallwch chi ddefnyddio'r offer hunanasesu ar-lein er mwyn darganfod ai gwneud cais am dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai yw'r dewis cywir ichi. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau, cliciwch ar y ddolen isod:
Dolen fan hyn....
Os byddaf yn gwneud cais, a fyddaf i'n cael fy ailgartrefu?
Ni allwn warantu y byddwn ni'n cynnig tŷ ichi.
FFAITH
- Mae oddeutu 8,000 o deuluoedd, parau a phobl sengl ar y gofrestr tai.
- Rydym yn cynnig tŷ i oddeutu 900 o deuluoedd y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu os byddwch chi'n ymuno â'r gofrestr tai, mae'n debygol y byddwch chi'n aros am amser hir cyn cael cynnig tŷ.
Os yw eich angen am dŷ yn fach, mae'n annhebygol y byddwch chi'n cael cynnig tŷ o gwbl.
Ym mhle mae'r tai cyngor a thai'r cymdeithasau tai sydd gennych?
Os hoffech gael manylion ynghylch:
- Lleoliadau'r tai cyngor a thai'r cymdeithasau tai sydd gennym
- Nifer y tai rydym ni wedi eu dyrannu mewn gwahanol ardaloedd yn y Sir
- Nifer y bobl eraill sy'n aros i gael tŷ
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch chi edrych ar ein gwefan newydd:
www.carmarthenshirehousing.co.uk