Mae Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Gâr yn darparu gwasanaethau i lywodraethwyr ysgolion ar draws y sir. Ar y safle hon, cewch wybodaeth am ein hadran ac hefyd gysylltiadau i adnoddau defnyddiol.
Mae'r uned wedi ei lleoli ym Mharc Dewi Sant ar gyrion tre Caerfyrddin.
Mae dros 1600 o lywodraethwyr ysgolion wedi eu gwasgaru ymhlith 123 o ysgolion led led y sir, ac mae'r uned yma yn darparu rôl bwysig drwy gyd-drefnu'r gweithgareddau a'r dyletswyddau sydd i'w cyflawni gan y llywodraethwyr hyn.
Mae Cynnal Llywodraethwyr yn rhan allweddol o Wasanaeth Cynnal Ysgolion y Sir a ddaw o dan ymbarel yr Adran Llywodraethu a Chynhwysiad.

Pennaeth y Gwasanaeth - Mr. Gareth Morgans (EDGMorgans@sirgar.gov.uk)
Mr. Llew Thomas - Rheolwr yr Uned Derbyniadau Ysgolion a Llywodraethu (Lthomas@sirgar.gov.uk)
Fe fydd staff yr uned, sef Jane Rees, Rhianydd Jones-Evans, Anwen Fisher a Ian Rees, o hyd yn barod i'ch helpu.
Felly, os fydd gennych gwestiynau ar unrhyw destun, cofiwch gysylltu â ni: